Y Frenhines: Celf a Delwedd
Dorothy Wilding, 1952
Print clorobromid, 290 x 215 mm
Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain (P870(5))
© William Hustler a Georgina Hustler/Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain
Gan Chris Levine
Print ar focs golau
© Chris Levine
Trwy garedigrwydd Mr Kevin P. Burke a’r Burke Children Private Collection.
I goffau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, mae Y Frenhines: Celf a Delwedd yn casglu 60 o’r delweddau mwyaf trawiadol o Elisabeth II drwy gydol ei theyrnasiad.
Yn cynnwys gwaith Cecil Beaton ac Annie Leibovitz, Lucian Freud ac Andy Warhol, mae’n archwilio ac yn dathlu’r ystod hynod o greadigrwydd artistig a delweddau mae’r Frenhines wedi’u hysbrydoli.
Gan archwilio natur newidiol argraff y cyhoedd o’r Frenhines dros y blynyddoedd, mae’r arddangosfa’n dangos sut y gall delweddau fod yn ddrych i’r farn gyffredinol am deulu brenhinol yn ystod teyrnasiad sydd wedi denu sylw miliynau o bobl.
Mae agweddau’r Cymry tuag at y Frenhines Elisabeth yn amrywio’n fawr ac wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn hanes gwleidyddol ein gwlad. O ddathlu i brotest, mae’r arddangosfa hon yn bwrw golwg ar y berthynas rhwng y Frenhines a Chymru yn ystod y trigain mlynedd diwethaf.
Mae ffilmiau, archifau, ffotograffau a gwrthrychau’n portreadu teimladau ac agweddau pobl at y Frenhines, yn ystod dau ymweliad brenhinol ag Aberystwyth – y naill ym 1955 a’r llall ym 1996.
Bydd cyfweliadau arbennig am berthynas Cymru a’r Frenhines hefyd yn cael eu dangos, yn eu plith cyfweliadau â'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas; Karen Price, Golygydd y Celfyddydau ar gyfer Media Wales ac Adam Phillips, Balchder Cymru.
Gan adlewyrchu newidiadau pwysig yng nghymdeithas ac yn y cyd-destun hanesyddol, tynnir sylw at ddatblygiadau a digwyddiadau pwysig – o berthynas y Frenhines â’r wasg a streic y glowyr i farwolaeth Diana, Tywysoges Cymru a dyfodiad technoleg newydd.
Mae portreadau paent ffurfiol, ffotograffau swyddogol, lluniau o’r wasg ac ymatebion grymus gan artistiaid cyfoes yn creu cyfres o waith sy’n ymestyn iaith weledol y portreadau brenhinol. Ategir y trosolwg cyfoethog hwn ar y cyfnod gan ddeunydd o archifau – o bapurau newydd i ffilmiau, stampiau a nwyddau.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae comisiwn poblogaidd ac anferthol Annigoni a wnaed ym 1969 ar gyfer yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain, portread Lucian Freud o 2000-01 o’r Casgliad Brenhinol a gwaith Justin Mortimer ble mae pen y Frenhines yn edrych fel petai’n hofran uwchben ei chorff ar gefndir anferth o liw melyn llachar.
Mae’r gwaith gan ffotograffwyr yn yr arddangosfa’n cynnwys ffotograffau Annie Leibovitz, Dorothy Wilding a Cecil Beaton – gan gynnwys delwedd eiconig Beaton o’r Coroni yn Abaty Westminster – a ffotograff anarferol Chris Levine o 2004 o’r Frenhines â’i llygaid ar gau.
Mae Y Frenhines: Celf a Delwedd hefyd yn cynnwys detholiad sylweddol o bortreadau anffurfiol o’r teulu brenhinol gan artistiaid amlwg yr ugeinfed ganrif megis Gilbert a George, Andy Warhol a Gerhard Richter, yn ogystal â phortreadau llai ffurfiol gan ffotograffwyr fel Eve Arnold, Patrick Lichfield ac Arglwydd Snowdon.
Trefnwyd yr arddangosfa deithiol hon gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau