Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Capten Scott: Taith dros Wyddoniaeth

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 14 Ion13 Mai 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Capten Scott, Antarctica, Llun: Casgliad F J Jones
Capten Robert Falcon Scott, Antarctica,
Llun: Casgliad F J Jones
Parti Captain Scott, Antarctica. Llun: Casgliad F J Jones
Captain Scott a'r parti de, Antarctica
Llun: Casgliad F J Jones

Nid ymgyrch i gyrraedd Pegwn y De yn unig oedd Alldaith Brydeinig Antarctig Capten Robert Falcon Scott ym 1910-13.

Roedd hefyd yn alldaith wyddonol.

Tranc Scott a’i bedwar cydymaith ar eu taith yn ôl o Begwn y De yw’r atgof pennaf o alldaith Scott ganrif yn ôl.

Ar 17 Ionawr 1912, ac wedi croesi dros 800 milltir o iâ’r Antarctig mewn 78 diwrnod, cyrhaeddodd pum dyn Begwn y De. Roedden nhw wedi gobeithio cyrraedd y pegwn cyn neb arall, ond fe’u curwyd gan dîm Norwyaidd oedd wedi cyrraedd fis o’u blaenau.

Bu farw pob un o’r pum dyn ar y daith yn ôl, ac o ganlyniad, ystyrid yr alldaith yn enghraifft glasurol o fethiant arwrol Prydeinig ers hynny.

Fodd bynnag, nid dyna ddiwedd yr hanes.

Diolch i dimau o wyddonwyr fu’n archwilio’r cyffindir mawr olaf hwnnw, daeth gwybodaeth newydd sbon am greigiau, tywydd a bywyd gwyllt i’r fei.

Bu grwpiau o ddaearegwyr yn archwilio ac yn mapio’r tiroedd newydd. Bu biolegwyr yn astudio ac yn casglu pengwiniaid, wyau a morloi, ac yn treillio gwely’r môr. Bu meteorolegwyr yn cofnodi’r tywydd a’r amgylchiadau atmosfferig, a bu ffisegwyr yn ymchwilio i ffurfiant yr iâ a symudiadau’r rhewlifoedd.

Yr wybodaeth a gasglwyd ar yr alldaith oedd sail gwyddoniaeth Antarctic fodern.

Yn yr arddangosfa hon, bydd cyfle i ymwelwyr weld detholiad o sbesimenau a gasglwyd yn ystod yr alldaith, yn ogystal â rhai delweddau eiconig o fforio yn yr Antarctig drwy gyfrwng lluniau dyfrlliw Edward Wilson (1872-1912) a ffotograffau Herbert Ponting (1870-1935).

Un o’r sbesimenau o gasgliad yr Amgueddfa ei hun fydd baner Cymru oedd yn chwifio ar long Scott, y Terra Nova, a blaenddelw’r llong. Ategir y rhain gan sbesimenau wedi’u benthyg o Sefydliad Ymchwil Pegynol Scott, yr Arolwg Antarctig Prydeinig, a’r Amgueddfa Hanes Natur.

Mae’r rhain yn cynnwys rhai o’r samplau cerrig a gasglwyd gan Scott ar ei ffordd yn ôl o Begwn y De, ac a ganfuwyd gyda’u cyrff ym mis Tachwedd 2012.

Mwy am Scott a'r alldaith o'n rhith-amgueddfa, Rhagor:

Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd

Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910

Tanwydd ar gyfer teithio i'r Antarctig: Cwmni Tanwydd Patent y Goron, Caerdydd

Cymry'r Antarctig

Arddangosfa sydd wedi bod:

O Gymoedd y De i Begwn y De: Cymru ac Antarctica