Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

ARTIST ROOMS – Joseph Beuys

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd 22 2011Ion 8 2012 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Siwt Ffelt, Joseph Beuys (1970)
Siwt Ffelt, Joseph Beuys (1970)
ARTIST ROOMS Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate
Caffaeliad ar y cyd drwy Rodd d'Offay gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Gronfa Gelf 2008
Scala Napoletana, Joseph Beuys (1985)
Scala Napoletana, Joseph Beuys (1985)
ARTIST ROOMS Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate
Caffaeliad ar y cyd drwy Rodd d'Offay gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Gronfa Gelf 2008

Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o waith mewn amryw gyfryngau o’r casgliad mawr o waith Joseph Beuys ar gyfer ARTIST ROOMS.

Mae’r arddangosfa wedi’i gosod mewn gofod pwrpasol yn orielau celf fodern a chyfoes newydd Amgueddfa Gelf Cymru ac yn ffurfio perthynas gref â’r arddangosiadau o gasgliadau gwych Amgueddfa Cymru ei hun o gelf wedi 1950.

Mae’n datgelu diddordeb hirhoedlog Beuys ym mharhad yr ysbryd Celtaidd yng ngogledd Ewrop.

Ceir cyfeiriad at gyfraniad Beuys i arddangosfa 'How the Past Perishes – How the Future Becomes', a drefnwyd gan Caroline Tisdall ar gyfer Eisteddfod Wrecsam ym 1977.

Gwelai’r artist y digwyddiad yn Wrecsam fel estyniad o’i osodiad semenaidd Honeypump at Documenta 6. Bydd digwyddiad a rhaglen i ysgolion yn cydredeg â’r arddangosfa fydd yn archwilio diddordeb Beuys yn y byd Celtaidd, a pherthnasedd arbennig hyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Mae casgliad ARTIST ROOMS yn gasgliad pwysig o gelf cyfoes rhyngwladol sy’n edrych ar artistiaid mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.

4 Tachwedd, 1.05pm
Cyflwyniad i'r arddangosfa gyda Nick Thornton, Pennaeth Celf Fodern a Chyfoes. Rhaid archebu wrth gyrraedd.

Joseph Beuys (1921 - 1986)

Caiff Joseph Beuys ei ystyried yn un o ffigurau mwyaf dylanwadol celf fodern a chyfoes.

Enillodd gryn enwogrwydd yn y 1960au am ei garisma a’i steil anghonfensiynol ond gwelir ôl ei ddylanwad arloesol hyd heddiw.

Fel actifydd ac athro gwleidyddol a chymdeithasol, roedd swyddogaeth gymdeithasol celf a’i b?er i iachau pob un yn allweddol i’w athroniaeth.

Cynhyrchodd Beuys doreth o waith mewn cyfryngau amrywiol yn cynnwys perfformiadau, darluniau, paentiadau, cerfluniau a gosodiadau.

Byddai ei themâu cymhleth yn plethu gwyddoniaeth, mytholeg, hanes, meddyginiaeth ac egni, ac mae delwedd Beuys a’i hanes yn rhan annatod o’i waith.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y cerflun Scala Napoletana a gerfiwyd ychydig fisoedd cyn marw’r artist ac sy’n cyffwrdd â’r thema o gysylltu â’r ‘ochr draw’.