ARTIST ROOMS – Joseph Beuys
ARTIST ROOMS Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate
Caffaeliad ar y cyd drwy Rodd d'Offay gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Gronfa Gelf 2008
ARTIST ROOMS Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate
Caffaeliad ar y cyd drwy Rodd d'Offay gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Gronfa Gelf 2008
Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o waith mewn amryw gyfryngau o’r casgliad mawr o waith Joseph Beuys ar gyfer ARTIST ROOMS.
Mae’r arddangosfa wedi’i gosod mewn gofod pwrpasol yn orielau celf fodern a chyfoes newydd Amgueddfa Gelf Cymru ac yn ffurfio perthynas gref â’r arddangosiadau o gasgliadau gwych Amgueddfa Cymru ei hun o gelf wedi 1950.
Mae’n datgelu diddordeb hirhoedlog Beuys ym mharhad yr ysbryd Celtaidd yng ngogledd Ewrop.
Ceir cyfeiriad at gyfraniad Beuys i arddangosfa 'How the Past Perishes – How the Future Becomes', a drefnwyd gan Caroline Tisdall ar gyfer Eisteddfod Wrecsam ym 1977.
Gwelai’r artist y digwyddiad yn Wrecsam fel estyniad o’i osodiad semenaidd Honeypump at Documenta 6. Bydd digwyddiad a rhaglen i ysgolion yn cydredeg â’r arddangosfa fydd yn archwilio diddordeb Beuys yn y byd Celtaidd, a pherthnasedd arbennig hyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Mae casgliad ARTIST ROOMS yn gasgliad pwysig o gelf cyfoes rhyngwladol sy’n edrych ar artistiaid mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.
4 Tachwedd, 1.05pm Cyflwyniad i'r arddangosfa gyda Nick Thornton, Pennaeth Celf Fodern a Chyfoes. Rhaid archebu wrth gyrraedd.
Joseph Beuys (1921 - 1986)
Caiff Joseph Beuys ei ystyried yn un o ffigurau mwyaf dylanwadol celf fodern a chyfoes.
Enillodd gryn enwogrwydd yn y 1960au am ei garisma a’i steil anghonfensiynol ond gwelir ôl ei ddylanwad arloesol hyd heddiw.
Fel actifydd ac athro gwleidyddol a chymdeithasol, roedd swyddogaeth gymdeithasol celf a’i b?er i iachau pob un yn allweddol i’w athroniaeth.
Cynhyrchodd Beuys doreth o waith mewn cyfryngau amrywiol yn cynnwys perfformiadau, darluniau, paentiadau, cerfluniau a gosodiadau.
Byddai ei themâu cymhleth yn plethu gwyddoniaeth, mytholeg, hanes, meddyginiaeth ac egni, ac mae delwedd Beuys a’i hanes yn rhan annatod o’i waith.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y cerflun Scala Napoletana a gerfiwyd ychydig fisoedd cyn marw’r artist ac sy’n cyffwrdd â’r thema o gysylltu â’r ‘ochr draw’.


Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau