Noson ‘Pwy yw’r Llofrudd?’
[delwedd: ]
Murder on the Menu
Miss Scarlet gyda’r dagr, Colonel Mustard gyda’r morthwyl neu Mrs Peacock gyda’r gwenwyn?
Byddwch yn dyst i’r eiliadau cyn llofruddiaeth erchyll, dehonglwch y cliwiau a datryswch y dirgelwch mewn noson Pwy Yw’r Llofrudd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Gwener, 23 Medi am 7pm.
Dewch i fwynhau noson o ddirgelwch, tensiwn a llofruddiaeth dan ofal Murder on the Menu, enw blaenllaw yn y byd adloniant corfforaethol a darparwyr nosweithiau dirgel uchel eu bri ar yr Orient Express.
Bydd yn noson ffraeth, llawn steil gyda chabaret soffistigedig yn ogystal â phryd tri chwrs a diod i aros pryd, a’r cyfan mewn cyn warws hanesyddol Gradd II yn nociau Abertawe.
Wrth siarad am y noson, dywedodd y Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry: “Dyma’r ail dro i ni drefnu noson Pwy Yw’r Llofrudd yn yr Amgueddfa. Maen gyfle gwych i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod i fwynhau noson o adloniant arbennig, bwyd blasus a datrys y dirgelwch wrth gwrs!”
Tocynnau yn £35 y pen yn cynnwys pryd tri chwrs a diod – i archebu lle cysylltwch ar (01792) 638950 neu galwch draw i’r Amgueddfa.
Bwydlen
~ Gwydryn Bucks Fizz i’ch Croesawu
~ Cawl llysiau cartref y Cogydd gyda croutons garlleg a rholyn wedi’i bobi’n ffres
~ Brest cyw iâr rhost gyda llenwad cennin Cymraeg lleol hufennog gyda saws tomato ysgafn a llysiau a thatws tymhorol
~ T?r caws gafr, planhigyn ?y a thomato
~ Eton mess traddodiadol
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau