Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Oedolion / £35 y pen (y pris i gynnwys swper tri chwrs a diod wrth gyrraedd) / Rhaid archebu lle: (01792) 638950

Noson ‘Pwy yw’r Llofrudd?’

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 23 Medi 2011, 7pm
Murder on the Menu

Miss Scarlet gyda’r dagr, Colonel Mustard gyda’r morthwyl neu Mrs Peacock gyda’r gwenwyn?

Byddwch yn dyst i’r eiliadau cyn llofruddiaeth erchyll, dehonglwch y cliwiau a datryswch y dirgelwch mewn noson Pwy Yw’r Llofrudd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Gwener, 23 Medi am 7pm.

Dewch i fwynhau noson o ddirgelwch, tensiwn a llofruddiaeth dan ofal Murder on the Menu, enw blaenllaw yn y byd adloniant corfforaethol a darparwyr nosweithiau dirgel uchel eu bri ar yr Orient Express.

Bydd yn noson ffraeth, llawn steil gyda chabaret soffistigedig yn ogystal â phryd tri chwrs a diod i aros pryd, a’r cyfan mewn cyn warws hanesyddol Gradd II yn nociau Abertawe.

Wrth siarad am y noson, dywedodd y Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry: “Dyma’r ail dro i ni drefnu noson Pwy Yw’r Llofrudd yn yr Amgueddfa. Maen gyfle gwych i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod i fwynhau noson o adloniant arbennig, bwyd blasus a datrys y dirgelwch wrth gwrs!”

Tocynnau yn £35 y pen yn cynnwys pryd tri chwrs a diod – i archebu lle cysylltwch ar (01792) 638950 neu galwch draw i’r Amgueddfa.

Bwydlen

 ~ Gwydryn Bucks Fizz i’ch Croesawu

 ~ Cawl llysiau cartref y Cogydd gyda croutons garlleg a rholyn wedi’i bobi’n ffres

 ~ Brest cyw iâr rhost gyda llenwad cennin Cymraeg lleol hufennog gyda saws tomato ysgafn a llysiau a thatws tymhorol

 ~ T?r caws gafr, planhigyn ?y a thomato

 ~ Eton mess traddodiadol