Darlith Flynyddol
Byddai dinasyddion Rhufeinig wedi gorfod defnyddio modrwyau sêl i selio dogfennau swyddogol.
Mae’r rhan fwyaf o’r gemau a ganfuwyd yng Nghaerllion wedi cwympo allan o fodrwyau lleng-filwyr wrth iddynt ymolchi yn y baddondai.
Dengys y delweddau ar y modrwyau hyn lawer i ni am gredoau crefyddol bywyd milwrol a diddordebau personol y dynion.
Casgliad Caerllion yw un o’r mwyaf o unrhyw safle ym Mhrydain ac mae o bwys rhyngwladol.
Y Parch. Dr Martin Henig, Athro Gwadd Anrhydeddus Sefydliad Archaeoleg, Coleg Prifysgol Llundain, yw awdur y gwaith safonol, A Corpus of Roman Engraved Gemstones from British Sites (1974. 3ydd argraffiad 2008) yn ogystal â chatalogau o’r gemau yng nghasgliadau Rhydychen a Chaergrawnt.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





