Pawb / Am ddim
Taith y Pentref
10yb - 10yp
Taith Gerdded 2010
Mae taith y pentref ar gael drwy'r amser.
Dilynwch y daith gerdded hunandywys hon o amgylch pentref Dre-fach Felindre, sy'n tynnu sylw at ffeithiau hanesyddol a diddorol ynghylch y diwydiant gwlân yn yr ardal.
Mae dwy daith ar gael, mae'r naill yn cymryd oddeutu tri chwarter awr i'w chwblhau a'r llall yn cymryd oddeutu awr a hanner.
Cafodd twf y diwydiant gwlân yn Nre-fach Felindre a'i milltir sgwâr effaith anferth ar y dirwedd a'r trigolion.
Mae'r cyfnod o ddiwedd yr 1800au tan ddechrau'r 1900au yn cael ei adnabod fel oes aur y diwydiant. Cafodd nifer o bobl eu denu i'r pentref oherwydd bod mwy o waith ar gael, ac o ganlyniad i hyn fe dyfodd Dre-fach Felindre. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Amgueddfa Wlân Cymru.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau