Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa

Sgwrs Amser Cinio: Deall Isca: Gwaith diweddar yn y lleng-gaer yng Nghaerllion

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 19 Hyd 2011, 1.05pm (30 munud) (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Caer y lleng Rufeinig, Caerllion
Adluniad o'r 'faestref goffaol' sydd newydd gael ei darganfod tu allan i'r gaer lengol yng Nghaerllion
Cloddio yng Nghae'r Priordy yn 2010
Cloddio yng Nghae'r Priordy yn 2010

Archwilio’r faestref o Adeiladau Coffaol sydd wedi ei darganfod y tu allan i’r gaer lengol yng Nghaerllion.

Tref ar lan orllewinol Afon Wysg ychydig i’r gogledd o ddinas Casnewydd yw Caerllion ac fe saif ar rai o weddillion mwyaf atyniadol y cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain.

Yn ystod arolygon geoffisegol yn 2009 a 2010 canfuwyd gweddillion casgliad o adeiladau cyhoeddus yr olwg i’r de o’r gaer, rhwng yr amffitheatr ac afon Wysg.

Mae dyddiadau, pwrpas a hanes yr adeiladau yma yn anhysbys, ond gallent gynnwys neuaddau marchnad, adeiladau dinesig, stordai, baddondai a themlau.

Bydd tîm o 50 archaeolegydd o Brifysgol Caerdydd yn dychwelyd i’r safle yn haf 2011 i gynnal arolygon geoffisegol pellach a datgloddio cyfres o ffosydd prawf ar draws y casgliad hwn o adeiladau coffaol.

Bydd y gwaith hwn yn darparu tystiolaeth bwysig newydd all ateb rhai o’r cwestiynau cyntaf a godwyd gan y darganfyddiad am rôl a statws caer Isca yng nghyfnod y goncwest, a tasg byddin Rhufain o gadw heddwch yng Nghymru.

Bydd Dr Peter Guest, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a chyfarwyddwr datgloddio Caerllion, yn disgrifio cefndir y project ac yn datgelu beth fydd y project newydd hwn yn ei gyfrannu at ein dealltwriaeth o Isca a’i chatrawd, yr Ail Leng Awgwstaidd.