Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 18 Meh11 Medi 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

[delwedd: Y foment © Bridget Barnard / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement]

Y foment
© Bridget Barnard / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement

[delwedd: Rhyfeddod o forgrug © Bence Máté / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement]

Rhyfeddod o forgrug
© Bence Máté / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement

[delwedd: Y foment stond © Fergus Gill / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement ]

Y foment stond
© Fergus Gill / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement

[delwedd: Môr grwban mewn trafferth © Jordi Chias Pujol / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement]

Môr grwban mewn trafferth
© Jordi Chias Pujol / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement

Mae’r gystadleuaeth fwyaf mawreddog o’i bath, sy’n arweinydd rhyngwladol ym maes portreadu byd natur drwy gelfyddyd, yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 18 Mehefin tan 11 Medi 2011.

Yr Amgueddfa Hanes Natur a BBC Wildlife Magazine yw cydberchnogion gwobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement.

Mae’r delweddau trawiadol yn aml yn procio’r meddwl ac rhoi cipolwg ar brydferthwch, drama ac amrywiaeth natur.

Mae’r arddangosfa eleni hefyd yn cynnwys enillwyr gwobr newydd – Ffoto-ohebyddion Bywyd Gwyllt y Flwyddyn – sy’n gwobrwyo chwe llun sy’n adrodd stori gofiadwy.

Dyfarnwyd teitl Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Y Flwyddyn Veolia Environnement i Bence Máté, ffotograffydd o Pusztaszer, Hwngari, am ei ddelwedd Rhyfeddod o forgrug, llun syml sy’n cyfleu cymhlethdod ymddygiad morgrug deildorrol yn fforestydd glaw Costa Rica.

Dyfarnwyd gwobr Ffotograffydd Ifanc Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environment i’r Albanwr Fergus Gill am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dyfarnwyd taw ei ddelwedd o sogiar, Y foment stond, oedd y ddelwedd fwyaf cofiadwy o blith holl ddelweddau’r ffotograffwyr dan 17 oed.

Dewisodd panel beirniaid oedd yn cynnwys rhai o’r ffotograffwyr natur ac arbenigwyr bywyd gwyllt uchaf eu parch yn y maes y delweddau gorau a anfonwyd i’r gystadleuaeth yn 2010, o gyfanswm o ddegau o filoedd o bedwar ban byd.

'Er nad oes fformiwla hud i ennill, na rheolau pendant i esbonio pam fod un ffotograff yn ennill ar draul un arall, mae gan bob llun buddugol un peth yn gyffredin - gwreiddioldeb.

Mae’r beirniaid yn chwilio am rywbeth sy’n eu syfrdanu. Mae’r gystadleuaeth yn chwarae rôl gynyddol bwysig wrth godi proffil ffotograffiaeth bywyd gwyllt a chodi ymwybyddiaeth am gadwraeth.

Nid oes unrhyw beth yn fwy grymus na ffotograff sy’n tanio’r dychymyg, sy’n cyffwrdd a’n hemosiynau neu sy’n gwneud i ni feddwl.’

Mark Carwardine, Cadeirydd panel y beirniaid.

 

Noddir cystadleuaeth ac arddangosfa 2010 gan Veolia Environment. Maent yn arweinwyr byd mewn gwasanaethau amgylcheddol, ac yn gweithio gyda busnesau, cymunedau a llywodraethau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.