Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010
© Bridget Barnard / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement
© Bence Máté / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement
© Fergus Gill / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement
© Jordi Chias Pujol / Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 Veolia Environnement
Mae’r gystadleuaeth fwyaf mawreddog o’i bath, sy’n arweinydd rhyngwladol ym maes portreadu byd natur drwy gelfyddyd, yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 18 Mehefin tan 11 Medi 2011.
Yr Amgueddfa Hanes Natur a BBC Wildlife Magazine yw cydberchnogion gwobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement.
Mae’r delweddau trawiadol yn aml yn procio’r meddwl ac rhoi cipolwg ar brydferthwch, drama ac amrywiaeth natur.
Mae’r arddangosfa eleni hefyd yn cynnwys enillwyr gwobr newydd – Ffoto-ohebyddion Bywyd Gwyllt y Flwyddyn – sy’n gwobrwyo chwe llun sy’n adrodd stori gofiadwy.
Dyfarnwyd teitl Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Y Flwyddyn Veolia Environnement i Bence Máté, ffotograffydd o Pusztaszer, Hwngari, am ei ddelwedd Rhyfeddod o forgrug, llun syml sy’n cyfleu cymhlethdod ymddygiad morgrug deildorrol yn fforestydd glaw Costa Rica.
Dyfarnwyd gwobr Ffotograffydd Ifanc Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environment i’r Albanwr Fergus Gill am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dyfarnwyd taw ei ddelwedd o sogiar, Y foment stond, oedd y ddelwedd fwyaf cofiadwy o blith holl ddelweddau’r ffotograffwyr dan 17 oed.
Dewisodd panel beirniaid oedd yn cynnwys rhai o’r ffotograffwyr natur ac arbenigwyr bywyd gwyllt uchaf eu parch yn y maes y delweddau gorau a anfonwyd i’r gystadleuaeth yn 2010, o gyfanswm o ddegau o filoedd o bedwar ban byd.
'Er nad oes fformiwla hud i ennill, na rheolau pendant i esbonio pam fod un ffotograff yn ennill ar draul un arall, mae gan bob llun buddugol un peth yn gyffredin - gwreiddioldeb.
Mae’r beirniaid yn chwilio am rywbeth sy’n eu syfrdanu. Mae’r gystadleuaeth yn chwarae rôl gynyddol bwysig wrth godi proffil ffotograffiaeth bywyd gwyllt a chodi ymwybyddiaeth am gadwraeth.
Nid oes unrhyw beth yn fwy grymus na ffotograff sy’n tanio’r dychymyg, sy’n cyffwrdd a’n hemosiynau neu sy’n gwneud i ni feddwl.’
Mark Carwardine, Cadeirydd panel y beirniaid.
Noddir cystadleuaeth ac arddangosfa 2010 gan Veolia Environment. Maent yn arweinwyr byd mewn gwasanaethau amgylcheddol, ac yn gweithio gyda busnesau, cymunedau a llywodraethau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





