Adnabod Artist: Graham Sutherland
Dyma ddetholiad o waith a gwrthrychau archif yn ymwneud â’r arlunydd Prydeinig Graham Sutherland (1903-1980).
Mae’n dangos pa mor eang yw’r deunydd sy’n perthyn i’r casgliad a’r archif yma yn yr Amgueddfa. Mae hefyd yn awgrymu cysylltiadau rhwng gwrthrychau a chelf a’r berthynas rhwng y bobl a’r llefydd a lywiodd yrfa Sutherland.
Disgrifiwyd Sutherland fel ‘arlunydd gorau ei genhedlaeth’.
Y traddodiad Rhamantaidd Seisnig oedd ei ysbrydoliaeth wreiddiol, ond datblygodd agwedd bersonol tuag at natur a oedd yn deillio fwyfwy o gelf fodern Ewropeaidd.
Cafodd y llefydd lle bu Sutherland yn gweithio ddylanwad mawr ar ei waith: o dirwedd wledig Caint i fryniau a chymoedd gorllewin Cymru a gwres a golau de-ddwyrain Ffrainc.
Roedd Sutherland yn awyddus i adael casgliad i Gymru am iddo ‘dderbyn cymaint gan y wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl’.
Ym 1976 sefydlodd Oriel Graham Sutherland yng Nghastell Picton a oedd yn gartref i’r rhan fwyaf o’r casgliad hwn nes iddo gael ei drosglwyddo i’r Amgueddfa ym 1995.
Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Rachel Flynn fel rhan o Ddyfarniad Doethuriaeth ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Bryste a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau