Adar y Nos a'r Aderyn Brith: Printiau Toulouse-Lautrec
Pan symudodd Henri de Toulouse-Lautrec (1864-1901) i Baris ym 1884, cafodd ei ysbrydoli gan nosweithiau lliwgar ardal Montmartre.
Ac yntau’n artist toreithiog, roedd ei bortreadau o actoresau, dawnswyr a phuteiniaid yr ardal yn gipolwg ar fywydau tywyllach Paris yr oes.
“Croniclwr sy’n dangos Paris i’r dim” – dyna ddisgrifiad Gustave Geffroy o Henri de Toulouse-Lautrec ym 1914.
Mae’r arddangosfa wych hon o tua 50 o brintiau gan yr artist o gasgliadau’r Amgueddfa Brydeinig mewn dwy ran, ‘Public Passions’ a ‘Private Passions’.
Mae ‘Public Passions’ yn cynnwys delweddau trawiadol o ddawnswraig y can-can, Louise Weber, neu La Goulue (‘Yr Un Barus’) ac yn ‘Private Passions’ gwelwn sut oedd Toulouse-Lautrec yn portreadu bywydau hynod breifat y puteiniaid â chryn sensitifrwydd.
Bywyd Cyhoeddus
Cynhyrchodd Lautrec lawer iawn o waith ar ffurf printiau. Cafodd ei lithograff cyntaf o’r Moulin Rouge – La Goulue ei argraffu fel poster ym 1891, a gwelwyd lluniau eraill ganddo mewn llyfrau a rhaglenni theatrau, ar gloriau copïau o ganeuon, gwahoddiadau a hyd yn oed bwydlenni.
Ymddangosodd llawer o’i luniau mewn nifer cynyddol o gyfnodolion newydd, a gyhoeddwyd i ddiwallu awch y cyhoedd a oedd yn fwyfwy llythrennog.
Byd y theatr a’r neuaddau cyngerdd oedd diddordeb pennaf Lautrec, yn enwedig bywyd tu ôl i’r llenni. Roedd llawer o’i waith yn canolbwyntio ar un pwnc arbennig, actores neu seren theatr gerdd y byddai’n gwirioni’n lân arni am gyfnod byr.
Daeth dawnswyr fel Louise Weber a Jane Avril yn gyfeillion agos iddo. Roedd y gantores Yvette Guilbert hefyd yn dibynnu ar Lautrec i roi cyhoeddusrwydd i’w doniau, ac fe wnaeth Lautrec sawl darlun ohoni gan gynnwys dau albwm o brintiau.



Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





