Digwyddiad 'Rolf on Welsh Art'
[delwedd: ]
Bydd pum paentiad newydd gan yr artist a’r diddanwr enwog Rolf Harris yn cael eu harddangos mewn amgueddfeydd ac orielau ar hyd a lled Cymru fel rhan o gyfres gelfyddydol newydd BBC Cymru Wales, Rolf on Welsh Art.
Bydd Rolf Harris yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Mercher 16 Chwefror i drafod y gyfres ac i ateb cwestiynau mewn sgwrs gyda chyflwynydd Rhaglen Gelfyddydol BBC Radio Wales, Nicola Heywood-Thomas. Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim a bydd yn dechrau am 2pm.
Y paentiadau yw ffrwyth ymdrech Rolf i greu gwaith cwbl newydd ar gyfer y sioe yn arddull y pedwar artist dan sylw – Syr Kyffin Williams, Graham Sutherland, Josef Herman a Shani Rhys James.
Roedd yn rhaid i Rolf wynebu sawl her artistig oedd yn gwbl newydd iddo, gan gynnwys:
- Paentio gan ddefnyddio cyllell balet yn unig er mwyn ceisio efelychu dull unigryw Syr Kyffin
- Edrych ar ei adlewyrchiad mewn drych llaw wrth beintio, fel mae Shani Rhys James yn ei wneud
- Codi gwrthrychau o Sir Benfro i’w cynnwys yn ei ddehongliad ef o waith Graham Sutherland
- Ail-wneud ei fersiwn ef o waith Josef Herman am nad oedd ei ymdrech gyntaf yn ddigon “sylweddol”
Mae’r paentiadau i’w gweld yn y lleoliadau partneriaeth canlynol:
Oriel Ynys Môn, Llangefni
Oriel Glynn Vivian, Abertawe
Oriel y Parc, Tyddewi, o Chwefror 11 ymlaen
Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Shani Rhys James), o Chwefror 16 ymlaen
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau