Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Ei Fywyd a'i Etifeddiaeth: Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 25 Maw5 Meh 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

[delwedd: Yr Eglwys Gadeiriol, yr Wynebau Deheuol / Uluru (Ayers Rock), Michael Andrews, 1987. Acrylig ar gynfas. Ar fenthyg o Ymddiriedolaeth Derek Williams ers 1993]

Yr Eglwys Gadeiriol, yr Wynebau Deheuol / Uluru (Ayers Rock), Michael Andrews, 1987. Acrylig ar gynfas. Ar fenthyg o Ymddiriedolaeth Derek Williams ers 1993.

[delwedd: Derek Williams at agoriad yn Oriel Howard Roberts yng Nghaerdydd]

Derek Williams at agoriad yn Oriel Howard Roberts, Caerdydd

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu cyfraniad Derek Williams i gelf yng Nghymru.

Roedd Derek Williams (1929-1984) yn gasglwr pwysig ym myd celf Brydeinig fodern. Tirfesurydd Siartredig oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, roedd yn hoff o gelf Brydeinig fodern yn enwedig gwaith John Piper a Ceri Richards, a’u gweithiau hwy yw’r mwyaf niferus yn ei gasgliad.

Ategir y rhain gan weithiau ffigurau mawr eraill yng nghelf Brydeinig canol yr ugeinfed ganrif megis Ben Nicholson, Henry Moore, L.S. Lowry, David Jones, Ivon Hitchens a Josef Herman.

Ymddiddorai Derek Williams mewn sawl maes yn cynnwys opera, ffotograffiaeth a golff. Dechreuodd brynu celf yn niwedd y 1950au.

O Oriel Howard Roberts yng Nghaerdydd ac Oriel Marlborough yn Llundain y prynai fwyafrif ei weithiau. Cai bleser mawr o adeiladu ei gasgliad ac o’i arddangos yn ei gartrefi a’i swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Mae caffaeliadau newydd gan Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi ehangu ar y casgliad sydd ar fenthyciad tymor hir i Amgueddfa Cymru.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi marwolaeth y casglwr. Yn ogystal â gofalu am y casgliad, mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn gyfrifol am ei ehangu a’i arddangos yn gyhoeddus.

Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn darparu cymorth hael i ychwanegu at y casgliad o weithiau wedi 1900 yn Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys uchafbwyntiau o gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams ac yn dangos eu cyfraniad unigryw i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.