Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Ei Fywyd a'i Etifeddiaeth: Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 25 Maw5 Meh 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Yr Eglwys Gadeiriol, yr Wynebau Deheuol / Uluru (Ayers Rock), Michael Andrews, 1987. Acrylig ar gynfas. Ar fenthyg o Ymddiriedolaeth Derek Williams ers 1993
Yr Eglwys Gadeiriol, yr Wynebau Deheuol / Uluru (Ayers Rock), Michael Andrews, 1987. Acrylig ar gynfas. Ar fenthyg o Ymddiriedolaeth Derek Williams ers 1993.
Derek Williams at agoriad yn Oriel Howard Roberts yng Nghaerdydd
Derek Williams at agoriad yn Oriel Howard Roberts, Caerdydd

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu cyfraniad Derek Williams i gelf yng Nghymru.

Roedd Derek Williams (1929-1984) yn gasglwr pwysig ym myd celf Brydeinig fodern. Tirfesurydd Siartredig oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, roedd yn hoff o gelf Brydeinig fodern yn enwedig gwaith John Piper a Ceri Richards, a’u gweithiau hwy yw’r mwyaf niferus yn ei gasgliad.

Ategir y rhain gan weithiau ffigurau mawr eraill yng nghelf Brydeinig canol yr ugeinfed ganrif megis Ben Nicholson, Henry Moore, L.S. Lowry, David Jones, Ivon Hitchens a Josef Herman.

Ymddiddorai Derek Williams mewn sawl maes yn cynnwys opera, ffotograffiaeth a golff. Dechreuodd brynu celf yn niwedd y 1950au.

O Oriel Howard Roberts yng Nghaerdydd ac Oriel Marlborough yn Llundain y prynai fwyafrif ei weithiau. Cai bleser mawr o adeiladu ei gasgliad ac o’i arddangos yn ei gartrefi a’i swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Mae caffaeliadau newydd gan Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi ehangu ar y casgliad sydd ar fenthyciad tymor hir i Amgueddfa Cymru.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi marwolaeth y casglwr. Yn ogystal â gofalu am y casgliad, mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn gyfrifol am ei ehangu a’i arddangos yn gyhoeddus.

Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn darparu cymorth hael i ychwanegu at y casgliad o weithiau wedi 1900 yn Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys uchafbwyntiau o gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams ac yn dangos eu cyfraniad unigryw i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.