Dyddiau Du / Dark Days
Yr arddangosiad cyntaf o waith John Cale yng Nghaerdydd. Ef oedd artist gwadd Cymru ym 53fed Arddangosfa Eilflwydd Celf Fenis yn 2009.
Mae John Cale yn bennaf enwog am ei gerddoriaeth arbrofol, o’i waith gyda bandiau megis yr arloesol Velvet Underground yn Efrog Newydd hyd heddiw.
Mae Dyddiau Du/Dark Days yn waith awdio-weledol sy’n adlewyrchu poen a ph?er etifeddiaeth ddiwylliannol a’i chymhlethdod a’i hystyr iddo. Ffilmiwyd y gwaith mewn sawl lleoliad yng Nghymru gan gynnwys hen gartref y teulu, bellach yn wag, yn Garnant, Rhydaman a Chwarel Dinorwig yn Llanberis, yn gydweithio â chôr a cherddorion ifainc.
Llwyfannwyd y ffilm sain sydd â phedair rhan ar draws pum sgrîn.Gwnaed y ffilm mewn sawl lleoliad yng Nghymru gan gynnwys hen d? gwag y teulu a chan gydweithio â chôr a cherddorion ifainc.
Mae John Cale yn adnabyddus yn bennaf am ei gerddoriaeth gyda bandiau o ddyddiau'r Velvet Underground yn Efrog Newydd hyd heddiw. Mae ei waith yn adlewyrchu'r boen a'r grym o'i etifeddiaeth a'i gwrthddywediadau a'i hystyr iddo ef.
"Mae’r darn hwn yn siwrnai ryfeddol i John Cale. Mae’n galluogi iddo rannu â’i gynulleidfa y modd y mae cof a phrofiad yn ei gynorthwyo i ddod i delerau â rhyw fath o ddychwelyd adref."
Cyfarwyddwr Addysg Rhaglenni a Datblygu Amgueddfa Cymru, Mike Tooby
"Mae Cale yn artist o bwys rhyngwladol. Mae wedi creu gwaith aml-gyfrwng grymus sy’n ymdriniaeth ddofn o’i deimladau personol am Gymru a’i etifeddiaeth, ar ffurf lluniau symudol, synau, geiriau a cherddoriaeth syfrdanol."
David Alston, Cyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru
Ganwyd John Cale ar 9 Mawrth 1942 ac mae’n gerddor, ysgrifennwr caneuon a chynhyrchydd cerddoriaeth sy’n bennaf adnabyddus am ei waith gyda cherddoriaeth roc, ond mae wedi gweithio mewn sawl steil wahanol dros y blynyddoedd.
Ganwyd Cale yn y Garnant yng Ngwm Aman oedd yn drwm dan ddylanwad diwydiant, a Chymraeg yw ei famiaith. Wedi canfod talent am chwarae’r piano, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Llundain a theithio i UDA i barhau â’i hyfforddiant cerddorol, diolch i gymorth a dylanwad Aaron Copland.
Roedd Cale yn aelod gwreiddiol o’r Velvet Underground, ac mae’n amlwg fel gerddor, cyfansoddwr ar gyfer ffilmiau a chynhyrchydd sawl albwm. Mae Cale wedi arbrofi yn barhaus drwy gydol ei yrfa gan symud o un ffurf gelfyddydol i’r llall fel na ellir rhoi diffiniad union o’i ddull creadigol.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





