Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Teuluoedd / £2 y pen / Rhaid Bwcio 01792 638950

Nos yn yr Amgueddfa

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 13 Mai 2011, 6yp
Harry Potter and the philosophers stone

Mae'n ddydd Gwener y 13eg a bydd hud ar yr Amgueddfa wedi amser cau.

Harry Potter fydd thema’r digwyddiad a bydd yn fwrlwm o arbrofion gwyddonol hudolus, taith ddirgel o amgylch yr orielau, consurio crefftus a bydd ymweliad hefyd gan ddau ffrind pluog o Ganolfan Heboga Cymru – Tylluan Ewropeaidd, yr un brid â Hedwig, anifail anwes Harry, a Thylluan yr Eira ifanc.

Bydd difyrrwch dewiniol y noson hefyd yn cynnwys crefftau creadigol lle gall ymwelwyr wneud cwpan addurnedig origami a blwch popcorn wedi’i ysbrydoli gan dylluanod.

Bydd cyfle hefyd i adeiladu hetiau dewin neu wialen hud gan ddefnyddio KNEX neu gallan nhw reoli Underground Ernie, rheilffordd fodel rhyngweithiol.

Bydd y noson yn gorffen gyda dangosiad atmosfferig o ffilm Harry Potter and the Philosopher’s Stone yn Oriel y Warws – addasiad o’r nofel gyntaf yn nghyfres Harry Potter gan yr awdur J.K. Rowling.

Bydd siop losin arbennig ar agor drwy gydol y ffilm yn gwerthu cacenni bychan i wrachod a dewiniaid a pwnsh hud.