Adnabod Artist: Llinellau Llafar: Darluniau ac Ysgythriadau Augustus John (1878-1961)
[delwedd: Dorelia mewn Gwisg Ddwyreiniol © Estate of Augustus John/ Bridgeman Art Library]
Dorelia mewn Gwisg Ddwyreiniol
© Estate of Augustus John / Bridgeman Art Library
Augustus John oedd un o artistiaid mwyaf lliwgar a dawnus ei genhedlaeth.
Mae’r arddangosfa hon yn seiliedig ar gasgliad gwych yr Amgueddfa o waith Augustus John a gweithiau ar fenthyg o gasgliad preifat pwysig.
Mae’n nodi 50 mlynedd ers marwolaeth un o artistiaid mwyaf llwyddiannus ein gwlad.
Cafodd ei eni yn Ninbych-y-pysgod ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade Llundain. Daeth dawn John i’r amlwg yno, gan fod cryn bwyslais yn cael ei roi ar y grefft o ddarlunio.
Yn ogystal ag astudiaethau ar gyfer paentiadau, fe greodd John ddarluniau a phortreadau o’i deulu a’i ffrindiau. Disgleiriodd fel myfyriwr yng Ngholeg Slade, diolch i linellau pwerus a thelynegol ei ddarluniau.
Aeth John ati i lunio ysgythriadau hefyd, ar ôl cael ei ysbrydoli gan waith Rembrandt. Roedd ei batrwm gweithio byrfyfyr yn asio’n dda â’r dechneg hon o greu printiau, ac mae rhyw naws uniongyrchol yn perthyn iddynt fel ei ddarluniau.
Mae testun ei brintiau’n adlewyrchu rhai o’i ddarluniau a’i baentiadau: portreadau, noethluniau a gwersylloedd sipsiwn.
Cafodd John lwyddiant mawr fel peintiwr portreadau oherwydd ei bersonoliaeth a’i enw da fel artist, a chafodd gomisiynau gan rai o enwau mawr y cyfnod.
Roedd ei deulu’n ysbrydoliaeth gyson iddo, yn enwedig ei awen gydol oes, Dorelia McNeill. Cyfarfu Augustus John â Dorelia McNeill am y tro cyntaf ym 1903.
Cafodd Augustus ei hudo’n syth gan ei harddwch, ei chyfaredd a’i swyn. Tynnodd luniau ohoni gydag arddeliad dros y trigain mlynedd nesaf.
Cafodd yr astudiaeth yma ei chreu pan oedd John, ei wraig Ida a Dorelia yn byw ym Mharis. Tynnodd John lun Dorelia dro ar ôl tro gan ei phortreadu mewn sawl osgo gwahanol ac amrywiaeth eang o wisgoedd. Yma, mae John wedi defnyddio dyfrlliw i greu darlun mwy bywiog.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau