Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Adnabod Artist: Llinellau Llafar: Darluniau ac Ysgythriadau Augustus John (1878-1961)

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 12 Chwe5 Meh 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Dorelia mewn Gwisg Ddwyreiniol © Estate of Augustus John/ Bridgeman Art Library
Dorelia mewn Gwisg Ddwyreiniol
© Estate of Augustus John / Bridgeman Art Library

Augustus John oedd un o artistiaid mwyaf lliwgar a dawnus ei genhedlaeth.

Mae’r arddangosfa hon yn seiliedig ar gasgliad gwych yr Amgueddfa o waith Augustus John a gweithiau ar fenthyg o gasgliad preifat pwysig.

Mae’n nodi 50 mlynedd ers marwolaeth un o artistiaid mwyaf llwyddiannus ein gwlad.

Cafodd ei eni yn Ninbych-y-pysgod ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade Llundain. Daeth dawn John i’r amlwg yno, gan fod cryn bwyslais yn cael ei roi ar y grefft o ddarlunio.

Yn ogystal ag astudiaethau ar gyfer paentiadau, fe greodd John ddarluniau a phortreadau o’i deulu a’i ffrindiau. Disgleiriodd fel myfyriwr yng Ngholeg Slade, diolch i linellau pwerus a thelynegol ei ddarluniau.

Aeth John ati i lunio ysgythriadau hefyd, ar ôl cael ei ysbrydoli gan waith Rembrandt. Roedd ei batrwm gweithio byrfyfyr yn asio’n dda â’r dechneg hon o greu printiau, ac mae rhyw naws uniongyrchol yn perthyn iddynt fel ei ddarluniau.

Mae testun ei brintiau’n adlewyrchu rhai o’i ddarluniau a’i baentiadau: portreadau, noethluniau a gwersylloedd sipsiwn.

Cafodd John lwyddiant mawr fel peintiwr portreadau oherwydd ei bersonoliaeth a’i enw da fel artist, a chafodd gomisiynau gan rai o enwau mawr y cyfnod.

Roedd ei deulu’n ysbrydoliaeth gyson iddo, yn enwedig ei awen gydol oes, Dorelia McNeill. Cyfarfu Augustus John â Dorelia McNeill am y tro cyntaf ym 1903.

Cafodd Augustus ei hudo’n syth gan ei harddwch, ei chyfaredd a’i swyn. Tynnodd luniau ohoni gydag arddeliad dros y trigain mlynedd nesaf.

Cafodd yr astudiaeth yma ei chreu pan oedd John, ei wraig Ida a Dorelia yn byw ym Mharis. Tynnodd John lun Dorelia dro ar ôl tro gan ei phortreadu mewn sawl osgo gwahanol ac amrywiaeth eang o wisgoedd. Yma, mae John wedi defnyddio dyfrlliw i greu darlun mwy bywiog.