Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / £3 i oedolion a £2 i blant. Am ddim i blant dan 5. Codir tal ychwanegol bychan am fwyd

Gladiator!

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 a 3 Gor 2011, 10am-5pm

[delwedd: Gladiator - Retarius]

Lupis y Retiarius

[delwedd: Gladiator - Murmillo]

Celatus y Murmillo

[delwedd: Gladiatrix]

Achillia y Gladiatrix

[delwedd: Gladiatrix]

Amazonia y Gladiatrix

Paratowch am frwydr!

Foneddigion a Boneddigesau, mae Dirprwy Lywodraethwr Caerllion wedi noddi dau ddiwrnod o ymladd gladiatoriaid i’ch diddanu. Gallwch chi weld rhai o’r gladiatoriaid gorau y tu allan i Rufain yn yr arena!

Yn y gornel Las - Celatus y Murmillo ac Amazonia y Gladiatrix! Ac yn y gornel Goch – Achillia y Gladiatrix a Lupis y Retiarius! Mae gan Celatus ac Amazonia arfau trwm, ac fe wna nhw unrhywbeth i ennill, ond mae Lupis ac Achillia yn gyflym â’i hymosodiadau fel sarff yn brathu. Pwy fydd yn ben yn yr arena?

Dewch draw i faes y sioe ar 2 a 3 Gorffennaf yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion. Gwyliwch y gladiatoriaid yn ymarfer, a dewiswch eich ffefryn! Os yw bywyd treisgar yr arena yn apelio atoch chi, beth am ymuno â’n hysgol hyfforddi gladiatoriaid?

Rhowch gynnig ar rai o’r symudiadau a chefnogwch eich hoff dim drwy wisgo eu lliw ar eich braich.

Bydd cyfle hefyd i grwydro drwy rai o’r stondinau fydd yn dod i’r dre gyda’r gladiatoriaid. Goda doctor, masnachwyr a stondinau bwyd, bydd digon o gyfle i wario’ch denarii rhwng y gornestau.

Dewch draw! Dewch draw! Dewch i gael eich rhyfeddu a’ch syfrdanu gan ein gladiatoriaid! Dilynwch ni ar Twitter i ddysgu mwy am ein gladiatoriaid ac i ddilyn y paratoadau at yr ornest fawr!

 

Gwybodaeth Parcio

Does gan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ddim maes parcio penodol. Dyma rai meysydd parcio y gellir eu defnyddio:

Maes parcio The Old Bull - 2 funud o gerdded (rhaid talu yn unol â chostau'r Cyngor lleol)
Maes parcio'r Amffitheatr - 5 munud o gerdded
Maes parcio Cold Bath Road - 10 munud o gerdded (dilynwch yr arwyddion ar gyfer Prifysgol Caerllion, yna troi i'r dde i lawr Cold Bath Road gan ddilyn yr arwyddion parcio)
Parcio lleol ar y stryd