Penwythnos Afalau
[delwedd: ]
[delwedd: Arddangosfa Afalau]
Fydd y tywydd gwael eleni ddim yn ein rhwystro rhag paratoi arddangosiad afalau anhygoel arall yn ein Penwythnos Afalau.
Ymwelwyd â sawl perllan a chasglwyd digonedd o afalau fel na fydd ein hymwelwyr yn cael eu siomi – ac mae’n argoeli i fod yn arddangosfa wych arall gydag ymhell dros 300 rhywogaeth afalau gwahanol.
Os oes gennych unrhyw afalau yn tyfu yn yr ardd ac am wybod beth ydyn nhw, dewch â thair esiampl gyffredin o bob rhywogaeth i’r digwyddiad, gan gynnwys y coesyn a’r llygad. Cadwch bob rhywogaeth mewn bag gwahanol. Os taw afalau coginio ydyn nhw, coginiwch un ymlaen llaw i weld a yw’n creu piwrî neu’n cadw ei siâp. Os ydych chi wedi bod yn tyfu’r afal ers rhai blynyddoedd, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am sut mae’n tyfu neu’n storio.
Efallai na fydd llawer o afalau i’w blasu a’u prynu ond bydd yr holl stondinau ac atyniadau eraill, gan gynnwys caws a seidr ger y babell fel arfer.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau