Gŵyl Fwyd Sain Ffagan


Cymerwch rai stondinau yn arddangos y bwydydd a’r diodydd Cymreig gorau, ychwanegwch ddogn da o hanes, cymysgwch hyn i gyd â mynediad am ddim a gweini’r cyfan mewn lleoliad awyr agored unigryw.
Dyma’r rysáit perffaith am ŵyl fwyd sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
O fwyd Cymreig traddodiadol i flaen y gad ym myd dulliau coginio, o seidr i samosas, ac o gwrw i gacennau cri – bydd rhywbeth yma at ddant pawb.
Gall ymwelwyr â Gŵyl Gwyd Sain Ffagan flasu a phrynu cynnyrch o dros 80 o stondinau yng nghanol adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa, prynu bara a theisennau o bopty’r Amgueddfa a blasu selsig porc cartref wedi’u cynhyrchu o gig anifeiliaid a fagwyd yn yr Amgueddfa.
Yn ogystal â’r danteithion bydd digonedd o arddangosiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan i borthi’r meddwl.
Bydd arddangoswyr yn cynnwys........
The Spanish Buffet: www.actiweb.es/thespanishbuffet
Llanfaes Dairy: www.llanfaesdairy.co.uk
Delicia Cakes: www.deliciacakes.co.uk
Homemade Country Preserves: www.homemadecountrypreserves.co.uk
Tracey Baker Ceramics: www.traceybakerceramics.com
Wil's Smokehouse: www.wilssmokehouse.com
Glam Lamb: www.glamlamb.co.uk
Blaengawney Cider www.blaengawneycider.co.uk
Granite Transformation: www.granitetransformations.co.uk
Wood'n it be Nice: www.wibnice.co.uk
Nervous Nigel's Relishes: www.nervousnigels.co.uk
......and llawer iawn mwy!
Lawrthlwythiadau

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





