Y Pentrefwyr
Mae’r Amgueddfa ei hun dafliad carreg o faes un o frwydrau pwysicaf y Rhyfel Cartref yng Nghymru. Ym 1648 daeth 11,000 o filwyr ynghyd ar faes y gad ym ‘Mrwydr Sain Ffagan’.
Gallwch glywed rhyfelgri’r milwyr unwaith eto yn yr ardal wrth i gatrawd o Gymdeithas Rhyfel Cartref Lloegr ddod i Gaerdydd!
Bydd rhai o’r pentrefwyr — gan gynnwys llawfeddyg, gwneuthurwyr seidr, gwehyddion a chrefftwyr — hefyd wrth-law i gynnig golwg ar effaith y brwydro ar y werin.
Ym 1648, anfonodd bwysigion y llywodraeth filwyr i chwalu'r gwrthryfel brenhinol yn ne Cymru, roedd braw a drwgdybiaeth wedi gafael yn y bobl, teuluoedd wedi eu rhannu ac ansicrwydd am y dyfodol yn gorfodi iddynt ddewis - y Brenin neu'r llwyodraeth?
Gellir gweld amrywiaeth o sgiliau a chrefftau yn y gwersyll milwrol. Bydd cyfle i chi weld arddangosfeydd crefftau nodwydd, creu les, arddangosfa gan lysieuydd, bragu cwrw, gwaith basged a bydwreigiaeth ynghyd ag agweddau diddorol eraill o fywyd bob dydd yn y 17eg ganrif.
Ewch at y barbwr lawfeddyg neu’r apothecari i wella anhwylder neu dysgwch sut y byddai caws a menyn yn cael eu cynhyrchu yn draddodiadol.
Mae’r milwyr yn paratoi at y storm sydd i ddod yn y gwersyll milwrol, ond byddant yn hapus i ddangos i chi sut oedd arfau’r cyfnod yn gweithio, neu beth am i chi roi cynnig ar drin picell 16 troedfedd neu holi criw’r cannon am “wên y gynnwr”!
Gwyliwch y cogyddion yn paratoi bwyd dros danau agored yn y gegin faes ar gyfer y milwyr a’r werin a chymharwch fwyd y boneddigion â bwyd y werin – beth am aros i weld ciniawa ffurfiol y swyddogion comisiwn?
Dewch draw i'r Amgueddfa i weld hanes yn dod yn fyw!

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau