Sioe o sêr: Golwg manwl ar garreg o’r lleuad a gwibfeini!
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Ymunwch â ni am ddiwrnod o weithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan ar thema’r gofod! Yn cyd rhedeg gyda 'Stargazing Live' ar y BBC.
Dewch i ddarganfod hanes casgliad gwibfeini’r amgueddfa, cydiwch mewn carreg o’r gofod a mwynhewch y gweithgareddau hwyl er mwyn dysgu mwy am y gwrthrychau gwych yma.
Cewch weld y gwibfaen a syrthiodd ym Meddgelert ym 1949 a dysgu amdano!
Cewch brofi’r dulliau gwahanol o wylio’r sêr drwy’r oesau – sut beth oedd gweld y Lleuad neu blaned Mawrth drwy delesgopau Galileo a Newton? Sut mae’r hen delesgopau’n cymharu â thelesgopau heddiw?
Dilynwch ein Llwybr Cwis i Oriel Esblygiad Cymru i ddarganfod mwy am y gwrthrychau gwych o’r gofod sydd i’w gweld.
Dewch i gael golwg mwy manwl nag erioed ar garreg o’r lleuad sydd gan yr amgueddfa (ar fenthyg gan NASA) gan ddefnyddio Microsgop Rhithwir y Brifysgol Agored.
Yn ein ffilm fer, cewch weld sut y cafodd y garreg o’r lleuad sydd gan yr amgueddfa ei ddarganfod. Cafodd y ffilm ei chynhyrchu i ddathlu 40 mlynedd ers glaniad cyntaf ymgyrchoedd Apollo ar y lleuad.
Dysgwch fwy am y gofod drwy ein sgyrsiau i’r teulu gyda Dr Bob Owens (Amgueddfa Cymru) a Fraser Lewis (Y Brifysgol Agored yng Nghymru).
Dewch i ymweld â Chanolfan Ddarganfod Clore am lond lle o weithgareddau ar thema’r gofod.
Cewch ddarganfod mwy am gyrsiau seryddiaeth wrth Stondin Gyngor y Brifysgol Agored.
Dewch i ddarganfod sut gall ysgolion ddefnyddio telesgopau robotaidd yn Hawaii ac Awstralia gyda Phroject Telesgop Faulkes.
[delwedd: Stargazing BBC]
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau