Penwythnos Caru Bwyd


Pa ffordd well i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen na drwy ddarganfod y bwydydd lleol gorau yng nghwmni eich cariad?
Dechrau digon di-flas i’r flwyddyn newydd? Peidiwch â digalonni – dewch i Benwythnos Caru Bwyd Big Pit i roi cynnig ar y bwyd lleol gorau.
Cewch flasu danteithion cyflenwyr lleol o bob cwr o’r de ddwyrain a siopa rhai o’u cynnyrch gorau.
Bydd caws lleol wedi’i aeddfedu dan ddaear yn Big Pit, siocled, cacenni, pastai, gwin a chwrw – oll wedi’u cynhyrchu’n lleol.
Gyda gweithdai, arddangosiadau bwyd, cerddoriaeth ac adloniant, bydd rhywbeth at ddant pawb!
Am ragor o wybodaeth a manylion, ffoniwch (01495) 790311
Gyda diolch i:
Blaenafon Cheddar Company
Chocs Away
Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange
Ymgyrch Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





