Plentyndod yng Nghymru
Partïon pen-blwydd, gemau pêl-droed, gwersi piano, cyngherddau Nadolig – beth mae plentyndod yn ei olygu i chi?
Mae llawer yn meddwl am blentyndod fel amser hudolus llawn hwyl a chyffro, cyfnod gwneud ffrindiau a ffynhonell atgofion melys. I eraill, mae'r llwybr tuag at dyfu'n oedolyn yn anodd a phoenus ac yn llawn ansicrwydd, ofn a phryder.
O ddyddiau heulog a hufen iâ, i glwy'r pennau, y frech goch ac adroddiadau ysgol, dydi tyfu i fyny ddim yn fêl i gyd.
Mae'r casgliadau plentyndod yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn llawn gwrthrychau, llawysgrifau a recordiadau ffilm a sain sy’n rhoi cipolwg ar fywydau plant yng Nghymru o'r ddeunawfed ganrif hyd heddiw.
Wrth sôn am deganau a gemau, amser hamdden, addysg, iechyd a chrefydd, mae'r arddangosfa’n dangos sut y mae pethau wedi newid i fechgyn a merched Cymru, ac eto mae'n cydnabod bod y pleser a'r boen, y llawenydd a'r tristwch sydd ynghlwm wrth dyfu i fyny yr un fath ym mhob oes.
Digwyddiadau
Llenyddiaeth i Blant yng Nghymru - 29 Ionawr, 2pm-3pm
Dr Siwan Rosser a Dr Katie Gramich o Brifysgol Caerdydd fydd yn trafod Llenyddiaeth i Blant yng Nghymru.
Cornel y Bardd - 19 Chwefror, 2pm-3pm
Y bardd a’r cyflwynydd teledu Ifor ap Glyn yn trafod agweddau o blentyndod, ei fagwraeth yn Llundain a’i brofiadau fel Bardd Plant Cymru 2008-09.
Cyfarfod y Curaduron - 23 Chwefror, 2pm-3pm
Cyfle i fynd ar daith dywys o amgylch yr arddangosfa ‘Plentyndod yng Nghymru’. Rhaid bwcio: (029) 2057 3424.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau