Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Diwali Mela

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 6 Tach 2010, 11am - 4pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

[delwedd: ]

Diwrnod llawn hwyl o gerddoriaeth a dawns Bollywood a Bhangra, gweithdai rangoli, celf a chrefft, sioeau ffasiwn, digwyddiadau i'r teulu a llawer mwy.

Yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, daw'r gymuned Hindwaidd yng Nghaerdydd at ei gilydd i arddangos traddodiadau a gwerthoedd Indiaidd.

Bydd y diwrnod yn cynnwys caneuon gwerin a thatw Henna i arddangosfeydd saree ac amrywiaeth o stondinau celf, crefft a sbeis.

Daeth dros 2,500 i Diwali Mela yn 2009, ac eleni disgwylir i'r digwyddiad ddenu hyd yn oed mw, pan fo'r brif neuadd yn llawn dathlu, lliw a mwynhad.

'G?yl y golau’ yw ystyr Diwali, yr yl a ddethlir gan y nifer fwyaf o bobl yn India.Yn bendant, mae'n sioe ni ddylid ei cholli!

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddiwylliannol Hindwaidd Cymru a Chanolfan India Caerdydd.