Pawb / Am ddim
Diwrnod Snowdonia 1890
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 26 Hyd 2010,
11am i 3pm
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Cymerwch daith drwy amser yn ein Diwrnod Snowdonia 1890, a gynhelir i gyd-fynd â rhaglen realiti newydd y BBC am fywyd yng nghymunedau chwareli gogledd Cymru ar droad y ganrif ddiwethaf.
Wrth i ddau deulu cyfoes o Gymru gamu yn ôl mewn amser i Oes Fictoria, ymunwch â ni yma yn Amgueddfa Lechi Cymru i gael blas ar fywyd yn y cyfnod hwnnw.
- Camwch yn ôl mewn amser yn y TARDIS enwog a ddefnyddir gan Dr Who
- Cyfle i gyfarfod Stiward y chwarel o’r rhaglen deledu
- Gwneud crefft decoupage Fictorianaidd
- Dewch i weld ein chwarelwr yn hollti a naddu llechi yn y ffordd draddodiadol
- Dewch draw i ymweld â’n tai chwarelwyr i gael golwg ar sut fyddai’r chwarelwyr a’u teuluoedd wedi byw yn ystod y cyfnod
- Cadwch lygad am UNA, injan y chwarel mewn stêm
DIWEDDARIAD: Yn anffodus ni fydd y wal ddringo a hysbysebwyd yn wreiddiol yn y digwyddiad hwn oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Ewch i www.bbc.co.uk/snowdonia1890 am fwy o wybodaeth.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau