Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Diwrnod Snowdonia 1890

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 26 Hyd 2010, 11am i 3pm

Cymerwch daith drwy amser yn ein Diwrnod Snowdonia 1890, a gynhelir i gyd-fynd â rhaglen realiti newydd y BBC am fywyd yng nghymunedau chwareli gogledd Cymru ar droad y ganrif ddiwethaf.

Wrth i ddau deulu cyfoes o Gymru gamu yn ôl mewn amser i Oes Fictoria, ymunwch â ni yma yn Amgueddfa Lechi Cymru i gael blas ar fywyd yn y cyfnod hwnnw.

  • Camwch yn ôl mewn amser yn y TARDIS enwog a ddefnyddir gan Dr Who
  • Cyfle i gyfarfod Stiward y chwarel o’r rhaglen deledu
  • Gwneud crefft decoupage Fictorianaidd
  • Dewch i weld ein chwarelwr yn hollti a naddu llechi yn y ffordd draddodiadol
  • Dewch draw i ymweld â’n tai chwarelwyr i gael golwg ar sut fyddai’r chwarelwyr a’u teuluoedd wedi byw yn ystod y cyfnod
  • Cadwch lygad am UNA, injan y chwarel mewn stêm

 DIWEDDARIAD: Yn anffodus ni fydd y wal ddringo a hysbysebwyd yn wreiddiol yn y digwyddiad hwn oherwydd amgylchiadau annisgwyl.

Ewch i www.bbc.co.uk/snowdonia1890 am fwy o wybodaeth.