Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 26 Ion3 Ebr 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina
Bwdha Sakyamuni, Xiaofowan, Baodingshan, Dazu, Llinach Song y de (OC 1174-1252).
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina
Pen Sakyamuni Bwdha, Pagoda Duobao, Beishan, Dazu, Llinach Song y de (OC 1127-1279).
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina
Pen Bwdha Vairocana, Baodingshan, Dazu, Llinach Song y de (OC 1174-1252).
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina

Mae llethrau serth Safle Treftadaeth y Byd yn Dazu ger Chongqing yn gartref i gyfres eithriadol o gerfiadau carreg yn dyddio o’r 9fed ganrif i’r 13eg.

Mae tua 50,000 o ffigurau yn y casgliad sy’n enwog am eu safon esthetig, y themau seciwlar a chrefyddol amrywiol a drafodir, a’r hyn y gellir ei ddysgu am fywyd bob dydd yn Tsieina’r cyfnod o’u hastudio.

Mae’r arddangosfa hon yn gyfle unigryw i weld rhai o’r cerfluniau hyn, nas gwelwyd y tu allan i Tsieina erioed o’r blaen.

Mae O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina yn cynnwys esiamplau ardderchog sydd wedi disgyn o’u safle gwreiddiol, ynghyd a chopiau manwl gywir o rai o’r cerfluniau pwysicaf sydd yn dal yn y graig a delweddau mawr dramatig i geisio efelychu’r profiad o ymweld a’r lleoliadau ysblennydd yma.

Mae Dazu yn drysorfa o hanes celfyddydol Tsieina ac yn fynegiad pwysig o syniadau Bwdhaeth, Daoaeth a Confuciaeth, ac yn olwg hudol ar fywyd bob dydd Tsieina.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ymfalchio yn y ffaith taw dyma’r unig le y gellir gweld yr arddangosfa bwysig hon cyn iddi ddychwelyd i Dazu.

Gwelwch mwy o luniau ar Flickr

Gwyliwch fideos ar YouTube

Mwynhewch Dazu mewn Manylder ar Rhagor

Darllenwch flog yr arddangosfa

Cewch y newyddion diweddaraf am Dazu ar Facebook

Dilynwch @museum_cardiff ar Twitter  #dazucymru

Digwyddiadau

Mae'r British Council yn cynnal Drafodaeth Panel yn yr Amgueddfa (24 Mawrth) i ddathlu'r cysylltiadau diwyllianol rhwng Tsieina a Chymru.

Celf Ogof Deml a Dazu

Datblygodd celf mewn ogofau teml wedi’u naddu o’r graig fel modd o ledaenu syniadau Bwdhaidd yn yr hen India.

Yn Tsieina, datblygodd ar y cyd â Bwdhaeth a ffynnu ar hyd y Ffordd Sidan a Dyffryn Afon Huang yn ystod teyrnasiad godidog llinach Wei y Gogledd (OC386-534) i linachau llewyrchus Sui (OC581-618) a Tang (OC618-907).

Crëwyd y cerfiadau carreg cyntaf yn Dazu yn hwyr yn 9fed ganrif gan ddatblygu’n egniol dros ardal eang am dros bedair canrif.

Gyda dros 50,000 o gerfluniau ar 75 safle gwahanol, maent yn bennod odidog yn hanes celf ogof deml yn Tsieina.

Tyfodd cerfiadau carreg Dazu o’r traddodiad ogofau teml cynnar ond gan ddatblygu’r gelfyddyd i gyfeiriadau newydd.

Cyfunwyd ideoleg Bwdhaeth, Daoaeth a Confuciaeth ynddynt i greu drysfa o ogofau wedi’u cerflunio sy’n unigryw ac yn gyfan gwbl Tsieineaidd eu naws. Mae natur mwyafrif y testunau a ddarlunnir yn seciwlar hefyd.

Gyda’u safon esthetig uchel a’u steil a’u testunau amrywiol, mae cerfluniau Dazu yn uchafbwynt cerfwaith carreg Tsieineaidd.

Yn Dazu, cyfunwyd credoau Bwdhaeth Tantrig o India a Daoaeth a Confuciaeth Tsieineaidd i greu ymgorfforiad dylanwadol o harmoni ysbrydol. Mae treftadaeth gelfyddydol hynod Dazu yn esiampl arbennig o’r amrywiaeth o gredoau crefyddol a ddilynid ym mlynyddoedd diweddarach y Tsieina Ymerodrol.

O’r wyth ogof deml â’u henwau ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO, Cerfluniau Carreg Dazu yw’r esiampl amlycaf o’r 9fed ganrif i’r 13eg ac mae’n dangos cyfnod nodedig olaf y gelfyddyd fawr hon.