Parti Dydd G?yl Dewi
Bydd yr Amgueddfa yn dathlu Dydd G?yl Dewi Sant gydag amrywiaeth o berfformiadau, cerddoriaeth, dreigiau, a defaid anferth yn neidio ar stilts fydd yn si?r o diddori’r holl deulu.
Rydyn ni’n annog ymwelwyr i alw draw yn eu gwisg Gymreig orau i fwynhau amrywiaeth o gelf a chrefft ac ymgolli mewn perfformiadau gan fyfyrwyr Coleg G?yr Abertawe a Chlwb Cerdd Cwm Tawe.
Bydd cyfle hefyd i weld sut mae llwyau caru Cymreig traddodiadol yn cael eu cerfio gydag arddangosiad byw gan Gymdeithas Cerfwyr Coed De Cymru, neu beth am bori drwy’r ffair grefftau fechan a phrynu cofrodd wedi’i ysbrydoli gan Gymru.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys gorymdaith ddreigiau arbennig dan arweiniad Arglwydd y Dreigiau.
Mae’r ddraig goch ac aur fawreddog hon yn si?r o roi diddanwch ymarferol i blant, pobl ifanc ac oedolion wrth iddo wau’i ffordd drwy’r Amgueddfa.
Mae’r digwyddiad yn yr Amgueddfa hefyd yn cefnogi Wythnos G?yl Ddewi Dinas a Sir Abertawe (26 Chwefror i 6 Mawrth), dathliad wythnos o fywyd Nawddsant Cymru.
Fel rhan o ddigwyddiadau ar draws y ddinas, bydd yr Amgueddfa yn cael ei goleuo’n goch llachar bob nos drwy gydol yr wythnos. Am ragor o fanylion ewch i www.saintdavidsday.com.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau