Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Arddangosfa Chwarel!

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd 25 2010Chw 6 2011 2011, 10am-4pm

[delwedd: ]

'Tree on Slate Tip' - Margaret Salisbury

[delwedd: ]

'Slate Fence' - Pierino Algieri

[delwedd: ]

'Spring breathes new life' - Margaret Barber

Arddangosfa o luniau gan Glybiau Camera lleol, Eryri a Chaernarfon, sy’n portreadu prydferthwch amrywiol diwydiant llechi Gogledd Cymru, ei phentrefi a’i phobl, ei gorffennol a'i phresennol.

Cewch gyfle i weld amryw o luniau gwahanol sy'n portreadu'r thema 'Chwarel' mewn  ffyrdd cwbl wahanol i'r arfer- lluniau haniaethol, tirluniau, lluniau o gymeriadau'r chwareli, adfeilion a llawer iawn mwy!

Diwydiant Llechi Gogledd Cymru

Bu dynion yn cloddio llechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynddoedd. Defnyddiwyd llechi i adeiladu rhannau o'r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon —ac yng nghastell mawreddog Edward 1af yng Nghonwy.

Ond gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif y ffrwydrodd y diwydiant llechi go iawn.

Cloddio llechi oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Cymru a gynhyrchai dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn, a Sir Gaernarfon oedd ar y brig ymhlith holl siroedd Cymru.

Ym 1882 cynhyrchodd chwareli'r sir dros 280,000 o dunnelli o lechi toi gorffenedig; ac ym 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru'n gyffredinol ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnel o lechi.

Ar anterth y diwydiant llechi yn Sir Gaernarfon roedd Llanberis a’r cylch yn fwrlwm o weithgarwch o bob math.

I ddysgu mwy am Diwydiant Llechi Gogledd Cymru gwelwch canllaw i'r amgueddfa arlein, a mwynhewch cyflwyniad trawiadol mewn tri dimensiwn 'Dwyn y Mynydd' yn yr amgueddfa.