Arddangosfa Chwarel!
Arddangosfa o luniau gan Glybiau Camera lleol, Eryri a Chaernarfon, sy’n portreadu prydferthwch amrywiol diwydiant llechi Gogledd Cymru, ei phentrefi a’i phobl, ei gorffennol a'i phresennol.
Cewch gyfle i weld amryw o luniau gwahanol sy'n portreadu'r thema 'Chwarel' mewn ffyrdd cwbl wahanol i'r arfer- lluniau haniaethol, tirluniau, lluniau o gymeriadau'r chwareli, adfeilion a llawer iawn mwy!
Diwydiant Llechi Gogledd Cymru
Bu dynion yn cloddio llechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynddoedd. Defnyddiwyd llechi i adeiladu rhannau o'r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon —ac yng nghastell mawreddog Edward 1af yng Nghonwy.
Ond gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif y ffrwydrodd y diwydiant llechi go iawn.
Cloddio llechi oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Cymru a gynhyrchai dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn, a Sir Gaernarfon oedd ar y brig ymhlith holl siroedd Cymru.
Ym 1882 cynhyrchodd chwareli'r sir dros 280,000 o dunnelli o lechi toi gorffenedig; ac ym 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru'n gyffredinol ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnel o lechi.
Ar anterth y diwydiant llechi yn Sir Gaernarfon roedd Llanberis a’r cylch yn fwrlwm o weithgarwch o bob math.
I ddysgu mwy am Diwydiant Llechi Gogledd Cymru gwelwch canllaw i'r amgueddfa arlein, a mwynhewch cyflwyniad trawiadol mewn tri dimensiwn 'Dwyn y Mynydd' yn yr amgueddfa.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





