Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Adnabod yr Artist: Merlyn Evans

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Medi 30 2010Chw 6 2011 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Merlyn Evans - Y Ffoaduriaid (1946)
Merlyn Oliver Evans - Y Ffoaduriaid (1946)
NMW A 2159

Mae’r arddangosiad yma yn dathlu canmlwyddiant geni Merlyn Evans, yr artist a anwyd yng Nghaerdydd ym 1910.

Mae gwaith Evans fel peintiwr, printiwr a cherflunydd yn dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddofn o haniaeth Ewropeaidd fodern.

Roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn themâu clasurol a mytholeg, ond mae elfennau symbolaidd rhamantus yn ei waith.

Cysylltir ei waith cynnar yn aml â Swrrealaeth, ac ym 1936 arddangoswyd saith darn o’i waith yn yr Arddangosfa Swrrealaeth Ryngwladol enwog yn Llundain.

Yn y 1930au hwyr a’r 1940au roedd ei waith yn ymateb i drais a thrasiedi trafferthion gwleidyddol ac economaidd Ewrop, a’r Ail Ryfel Byd a’u dilynodd. Dychanwyd methiant gwleidyddiaeth y cyfnod mewn peintiadau uchelgeisiol yn llawn symbolaeth gymhleth.

Yn y 1950au daeth printio, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnegau ysgythru, yn elfin bwysig o’i waith.

Defnyddiodd ffurfiau gwastad geometrig ar gefndir niwtral i greu steil bensaeryddol nodweddiadol oedd yn dal i gynnwys cyfeiriadaeth ffigurol. Mae’r peintiadau yma o’r 1960au hwyr yn rhai o weithiau mwyaf beiddgar, dramatig a mawreddog y cyfnod.

Ganwyd Merlyn Evans yn Llandaf, Caerdydd ym 1910. Symudodd ei deulu i Rutherglen ger Glasgow ym 1913, ond cyfrai Evans ei hun yn Gymro erioed.

Astudiodd yn Ysgol Gelf Glasgow o 1927-30 ac yn y Coleg Celf Brenhinol o 1931-33. Bu’n byw yn Ne Affrica o 1938-42, gan ddychwelyd i fyw a gweithio yn Llundain ym 1946. Bu farw ym 1973.

Dewiswyd yr arddangosfa hon gan yr awdur a’r hanesydd celf Mel Gooding. Fe’i gwnaed yn bosibl drwy fenthyciadau a drefnwyd drwy ystad Merlyn Evans.