Ar Gof a Chadw
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Beth fyddech chi’n ei roi ar gof a chadw? Pa wrthrychau sy’n bwysig i chi a pham?
Gall eitemau arbennig ein hatgoffa o bobl a llefydd, a deffro atgof am ddigwyddiadau arbennig a cherrig milltir yn ein bywydau.
Mae amgueddfeydd yn llawn pethau sydd ar gof a chadw, pob un yn adrodd ei stori unigryw ei hun.
Yn aml, gwrthrychau fyddai o werth sentimental i’w perchnogion gwreiddiol a gesglir gan amgueddfeydd. Mae nifer yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth fel crair teuluol.
Canlyniad prosiect celf gymunedol deuddeg mis dan arweiniad Cymdeithas Celfyddydau Menywod yw’r arddangosfa hon. Gwahoddwyd menywod o’r Barri a Chaerdydd i ymateb yn greadigol i gasgliadau amrywiol yr Amgueddfa.
Rhannodd yr artistiaid proffesiynol Prue Thimbleby a Becky Adams eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda’r menywod mewn cyfres o weithdai wythnosol. Canlyniad y gweithdai a welir yma.
Dangosir y gwrthrychau o gasgliad Sain Ffagan a ysbrydolodd y menywod ochr wrth ochr â’r gwaith celf.
Mae pob darn yn brawf o’r profiad personol a gafodd y menywod o’r prosiect ac yn gofroddion i’w trysori.
Porwch wefan Cymdeithas Celfyddydau Menywod am wybodaeth bellach.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau