Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Strwythurau Dynamig: Llestri wedi’u Peintio gan Elizabeth Fritsch

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 2 Ionawr 2011 2011 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Yn arddangos ystod o’i gwaith o’r eitemau cynnar mwyaf nodedig i waith diweddar, mae Strwythurau Dynamig: Llestri wedi’u Peintio gan Elizabeth Fritsch yn dathlu pen-blwydd yr artist cerameg Cymraeg o fri yn 70 oed.

Mae’r arddangosfa yma yn cynnwys eitemau na cheir eu dangos yn aml gan un o enwau blaenllaw y byd cerameg ym Mhrydain ers y 70au. Mae i’w weld o 2 Hydref 2010 i 2 Ionawr 2011 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae’r darnau, a ddewiswyd ac a drefnwyd yn themâu gan yr artist ei hun, yn adlewyrchu’r themâu a ddylanwadodd arni fwyaf megis cerddoriaeth, mathemateg (topoleg), daeareg, mytholeg a hanes celf.

Mae Fritsch yn artist cyfoes mawr ac mae ei gwaith yn bleser i’w weld ac yn gwneud i chi feddwl, yn eich annog i chiwilio am yr amrywiaeth o ystyron y gellir eu tynnu o’i gwaith rhyfeddol.

Fel y cyntaf o nifer o wneuthurwyr cerameg rhagorol i raddio o’r Coleg Celf Brenhinol yn y 1970au cynnar, datblygodd Fritsch steil nodedig wedi’i seilio ar ei thechneg adeiladu â llaw ei hun a dull unigryw o liwio a pheintio mewn tri dimensiwn, yn symud oddi wrth y prif ddull o gerameg wedi’i droi ar olwyn.

Golygodd ei ffurfiau ‘2½ dimensiwn’ gwasgedig, oedd yn twyllo’r llygad ac yn chwarae ag opteg wahanol, iddi ennill parch fel artist unigryw a phwysig.

Ganwyd Fritsch i deulu Cymraeg cerddorol ar y ffin â Swydd Amwythig. Dysgodd chware’r piano a’r delyn gan feithrin ei thalent i safon uchel, ac amlygodd ei brwdfrydedd cerddorol ei hun yn y ffigurau rhythmig cymhleth a beintiai ar ei photiau.

Dywed yr artist fod y ffigurau yma, a seiliwyd ar gridiau crwm fyddai’n dilyn ffurf pob darn gyda manyldeb mathemategol ac sy’n pwysleisio strwythur dynamig ffurfiau penodol, “yn cyfateb i rhythm a thempo cerddoriaeth”.

Mae hyn yn gyfle prin i weld casgliad mawr o waith Elizabeth Fritsch yn dangos ei gyrfa a’i dylanwadau yn llawn.

Mae ei gwaith i’w weld yng nghasgliadau amgueddfeydd mawr ledled y byd yn cynnwys Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain a’r Amgueddfa Celf Fodern Fetropolitan yn Efrog Newydd.

Cynhyrchir yr arddangosfa, fydd yn cynnwys gweithiau o gasgliad Amgueddfa Cymru yn ogystal â gweithiau pwysig o gasgliadau Prydeinig cyhoeddus a phreifat, gyda chymorth Clare Beck o Adrian Sassoon, deliwr celf blaenllaw sy’n arbenigo mewn celf gyfoes.