Arddangosfa Treftadaeth Cwpan Ryder
Yn creu darlun o hanes cyfoethog un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd a pharatoi am Gwpan Ryder 2010 yn y Celtic Manor, Casnewydd.
Cynhaliwyd Cwpan Ryder am y tro cyntaf ym 1927 fel gornest rhwng chwaraewyr proffesiynol Prydain Fawr a’r Unol Daleithiau.
Mae Arddangosfa Treftadaeth Cwpan Ryder yn adrodd hanes y gystadleuaeth o’r dyddiau cynnar hyd at heddiw. Mwynhewch gasgliad unigryw a diddorol o bethau cofiadwy yn ymwneud â Chwpan Ryder.
O raglenni a bwydlenni hanesyddol wedi’u llofnodi i roddion ac offer timau, mae phopeth yn dod yn fyw drwy gyfrwng ffotograffau o’r gornestau cyntaf, dros 80 mlynedd yn ôl, hyd heddiw.
Dangosir yr arddangosfa yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd tan 19 Awst, ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 24 Awst i 22 Medi.
Gyda llygaid y byd chwaraeon ar y Cwpan Ryder cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru, bydd cyfle i’r miloedd o ymwelwyr weld yr arddangosfa yn y pentref pebyll yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor o Fedi 27 i Hydref 3, wrth i Dîm Ewrop Colin Montgomery herio Tîm yr Unol Daleithiau dan arweiniad Corey Pavin.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau