Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Oedolion / Tocynnau £10 / Rhaid archebu ymlaen llaw (01495) 742333

Call Mr Robeson: Bywyd a chân

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 23 Hyd 2010, 7.30pm
Paul Robeson
Paul Robeson
Tayo Aluko
Tayo Aluko

Roedd Paul Robeson yn actor o fri, yn ganwr penigamp ac yn ymgyrchydd hawliau sifil.

Roedd ganddo berthynas agos iawn â Chymru, a bu’n brwydro dros hawliau’r glowyr gan weld tebygrwydd rhwng brwydrau’r gweithwyr cyffredin yng Nghymru a’r mudiad hawliau sifil yn America.

Bydd Tayo Aluko yn dod â stori Robeson yn fyw ar y llwyfan, ac mae’r ddrama emosiynol ac ysbrydoledig hon yn cynnwys rhai o areithiau a chaneuon enwocaf Robeson, gan gynnwys yr eiconig ‘ Ol’ Man River ’.

Bydd y drama hwn yn cael ei gynnal yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon

Cefnogir gan Safle Treftadaeth Blaenafon, Masnachwyr Blaenafon a Llyfrgell y Glowyr De Cymru

 

Call Mr Robeson: Enillydd, Gwobr Angel am Ragoriaeth Gelfyddydol.

Enwebai, Y Sioe Orau

Tayo Aluko: Enillydd, Perfformiad Gwrywaidd Gorau, Brighton Festival Fringe, Mai 2008.

 

‘Y tro cyntaf erioed i mi grio ar ddyletswydd.”

Tywysydd gwrywaidd, Bristol Old Vic