Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Pen-blwydd Hapus i'r Glannau!

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 17 Hyd 2010, 11am-4.30pm

Cofiwch alw draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Sul 17 Hydref.

Rhwng 11 a 4.30pm, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o gerddoriaeth, crefftau a bydd yr anhygoel Titan y Robot yno ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu pumed pen-blwydd yr Amgueddfa.

Bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn sialens k’nex ar thema robotiaid, neu beth am helpu i greu collage anferth o’r rhif pump gan ddefnyddio gwasg argraffu Fictoraidd!

Bydd cyfle i chi gyfarfod yr enwog Titan y Robot hefyd, cysyniad adloniant sy’n boblogaidd gan bawb ac sydd wedi ymddangos ym mhob cwr o’r byd mewn llefydd mor bell â Tsieina, Hollywood a Dubai.

Yno i’ch diddanu gyda’u perfformiadau bydd y Pencampwyr Byd Royal Supremes Penarth, Cerddorfa Acordion Abertawe, Cantorion Sialens Cancr Abertawe a Cherddorfa Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.

Dewch draw i ymuno â’r parti!