Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Penwythnos Ynni Gwyrdd

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2022 Awst 2010, 11am - 4pm

Ymunwch â ni am gynghorion ymarferol gan arbenigwyr ynni Cymru, a gweithdai i blant.

Canolbwynt y digwyddiad fydd peiriant sm?ddi mefus sy’n cael ei yrru drwy bedlo, Sinclair C5, car ynni solar a beic tair olwyn ynni solar a ddyluniwyd gan Shawn Brown, sy’n 19 mlwydd oed ac newydd ennill Gwobr Peiriannydd Ifanc y Flwyddyn y DU.

Caiff plant gyfle i adeiladu trac scalextric sy’n cael ei yrru drwy bedlo, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a chael cynnig ar wneud printiau haul solar.

Bydd Brian Spinks o Gymdeithas Seryddol Abertawe yno hefyd yn dangos sut i edrych ar yr haul yn ddiogel drwy delesgop solar arbennig (yn dibynnu ar y tywydd).

Hefyd bydd tîm Undercurrents yn dangos sut i wneud ffilmiau yn defnyddio ynni solar.

Gyda hyn oll a mwy, peidiwch â cholli un o brif ddigwyddiadau gwyrdd yr haf hwn!

Am fwy o wybodaeth galwch 01792 638950.