Noson Pwy yw'r Llofrudd?
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Pwy yw’r llofrudd? Miss Scarlet gyda’r dagr, Colonel Mustard gyda’r morthwyl – neu Mrs Peacock gyda’r gwenwyn?
Wel ... dyma’r cyfle perffaith i ddod i wybod yn Noson ‘Pwy yw’r Llofrudd?’ Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 29 Hydref.
Ymunwch â ni a Chwmni Theatr Chance Encounters am noson o ddirgelwch a diddanwch a phryd tri chwrs yn oriel atmosfferig y Warws.
Collwch olwg ar yr amser wrth i chi a’ch gwesteion baratoi i ddatrys y troseddau erchyll a cofiwch – byddwch yn wyliadwrus!
Bwydlen ‘Pwy yw’r Llofrudd?’
Cwrs Cyntaf
Tarten Caws Caerffili a Chennin wedi’u ffrio’n ysgafn ar wely o salad â dresin balsamig.
Prif Gwrs
Ysgwydd wedi Brwysio o Gig Oen y Cwm mewn saws cyrens coch a rhosmari gyda thatws hufennog a bwndel o lysiau
Teisen Risotto Asbaragws a Madarch Gwyllt gyda saws hufen saffrwm (dewis llysieuol)
Pwdin
M?s Siocled a Chnau Collen gyda Chrimpiau Brandi Cras
Coffi a mintys
Bydd bar ar gael lle codir tâl am ddiodydd.
Prisiau
Tocynnau £29.50 (yn cynnwys pryd o fwyd tri chwrs).
Archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi – (01792) 638950!
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau