Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Tocynnau £7.50 – argymhellir eich bod yn prynu tocyn o flaen llaw. Ewch i www.greatswanseaclothesswap.co.uk neu Ganolfan yr Amgylchedd, Stryd y Pier, Abertawe.

Cyfnewidfa Ddillad Fawr Abertawe

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 24 Gor 2010, 12-5pm i adael eich dillad a chael tocynnau, 6pm dewch yn ôl i gyfnewid tocynnau am ddillad.

[delwedd: ]

Haf gyfnewid-iol!

Ydych chi’n dyheu i weddnewid eich cwpwrdd dillad? Wel dyma’ch cyfle i ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf sy’n sgubo drwy’r wlad. Ai dyma’r ateb i’n holl broblemau siopa – Y man cychwyn yw Cyfnewidfa Ddillad Fawr Abertawe.

Cynhelir y gyfnewidfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf. Dyma gyfle i chi gael gwared ar unrhyw eitemau diangen o’ch cwpwrdd dillad a bachu ar y cyfle i gael ambell beth newydd. Mae’n syml - cyfnewid rhywbeth nad ydych ei angen am rywbeth rydych yn dyheu amdano.

Bydd y paratoadau’n cychwyn am 12pm. Mae angen i bobl ddod â’u heitemau diangen a’u cyfnewid am dalebau. Bydd yr holl eitemau’n cael eu didoli a’u trefnu’n briodol. Yna am 6pm, bydd y drysau’n ail-agor a bydd y cyfnewid yn cychwyn.

Bydd unrhyw eitemau sydd dros ben ar ddiwedd y noson yn cael eu rhoi i’r elusen canser Tenovus, i’w gwerthu yn eu siopau.

Bydd adloniant gan Women in Jazz, o Abertawe, a bydd caffi’r Amgueddfa ar agor am luniaeth un ai cyn neu ar ôl eich sbri gyfnewid.

 Y Rheolau

1. Prynwch eich tocyn o flaen llaw

Mae tocynnau’n £7.50 y person ac ar gael yn http://www.greatswanseaclothesswap.co.uk/ neu o Ganolfan yr Amgylchedd, Stryd y Pier, Abertawe.

 2. Gadael dillad (12-5pm, Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf)

Dewch ag o leiaf tair eitem ddiangen sy’n lân a gwisgadwy o’ch cwpwrdd dillad y byddech yn falch i rywun arall eu cael - gallant gynnwys ategolion, dillad ac esgidiau ond dim gwisgoedd nofio a chlustdlysau.

3. Cyfnewid (6-8pm, Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf)

Dewch â’ch talebau a bachu ar y cyfle i gael llond cwpwrdd o ddillad haf newydd!