Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Ffair Grefftau Bae Abertawe

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 6 a 7 Tach 2010, 10am-4pm

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Dewch draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn i weld amrywiaeth o syniadau celf crefftus ar gyfer tymor y Nadolig.

Bydd Ffair Grefftau Bae Abertawe yn dod â chrefftwyr talentog o’r ardal gyfan ynghyd i arddangos a gwerthu eu creadigaethau crefftus.

Bydd stondinau amrywiol yn arddangos gwydr, cardiau cyfarch, gemwaith a thecstilau i drefnu blodau addurniadol, tedi bêrs a ffotograffiaeth.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i weld y crefftwyr lleol wrth eu gwaith gydag arddangosiadau byw o gerfio coed, llunio llestri a chwiltio yn ogystal â gweithdy lledr.

Cyfle i wneud siopa Nadolig cynnar gydag amrywiaeth o grefftau lleol o safon fydd yn gwneud anrhegion perffaith.