Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Ffair Grefftau Nadolig

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 27 Tach 2010, 10am-4pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

[delwedd: ]

Crefftau cartref gan grefftwyr lleol, ar werth yn yr amgueddfa

Dyma’r lle perffaith i ddechrau’r siopa Nadolig, gyda dros 20 o stondinau yn gwerthu anrhegion unigryw i bob aelod o’r teulu.

Bydd gemwaith, gwaith celf a darluniau, bagiau, gwaith metel a gwaith pren, sebon, crochenwaith, dillad, addurniadau i’r t?, ffotograffau trawiadol a thedi bêrs, a llawer mwy ar werth yno.

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr â’r Ffair alw yn siop yr Amgueddfa lle gallan nhw ddarganfod blancedi bendigdeig a sgarffiau sidanaidd, llyfrau hanesyddol a llyfrau plant, ynghyd â thegannau gwlanog i’r plant!

Mae Melin Teifi hefyd ar y safle ac yno mae modd dod o hyd i bob math o nwyddau gwlân wedi eu gwehyddu gan un o grefftwyr pennaf Cymru, perchennog Melin Teifi, Raymond Jones.

Mae siolau, siacedi, crysau, blancedi, carthenni a llawer mwy ar werth.