'Hiraeth'
[delwedd: ]
Arddangosfa o waith myfyrwyr wedi’i ysbrydoli gan y thema ‘Hiraeth’ a chasgliadau’r Amgueddfa.
Gwahoddodd myfyrwyr o Colegau y De a Gorllewin Cymru i gael eu hysbrydoli gan yr Amgueddfa - yr adeilad ei hun, y peiriannau tecstilau diwydiannol neu’r casgliad tecstilau - er mwyn cyflwyno darn o waith ar gyfer arddangosfa a guradir yn yr Amgueddfa sy’n canolbwyntio ar y thema.
Mae casgliad yr Amgueddfa o decstilau Cymru yn dangos ein treftadaeth ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth gyfoethog ar gyfer arlunwyr a dylunwyr cyfoes.
Mae pensaernïaeth, peirianwaith, deunyddiau, lliw, patrymau a gwead yn cyfuno i ddiffinio traddodiadau diwydiannol a domestig rhanbarthau daearyddol gwahanol, gan gynrychioli teimlad cryf o le.
Mae’r casgliadau yn rhoi cyfle i’r ysgolhaig ddeall crefft a thechnoleg ein hynafiaid, ond maent hefyd yn diffinio lle mewn ffordd fwy barddonol ac athronyddol.
Mae gwrthrychau iwtilitaraidd fel siolau a blancedi yn diwallu anghenion ymarferol ond hefyd yn cynnig cyfle i ymchwilio i ddathliad o batrwm, lliw a diogelwch.
Dewch i weld canlynidadu yr ysbrydoliaeth.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau