Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim / Am fwy o wybodaeth: 01559 370929

'Hiraeth'

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 130 Tach 2010 (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

Arddangosfa o waith myfyrwyr wedi’i ysbrydoli gan y thema ‘Hiraeth’ a chasgliadau’r Amgueddfa.

Gwahoddodd myfyrwyr o Colegau y De a Gorllewin Cymru i gael eu hysbrydoli gan yr Amgueddfa - yr adeilad ei hun, y peiriannau tecstilau diwydiannol neu’r casgliad tecstilau - er mwyn cyflwyno darn o waith ar gyfer arddangosfa a guradir yn yr Amgueddfa sy’n canolbwyntio ar y thema.

Mae casgliad yr Amgueddfa o decstilau Cymru yn dangos ein treftadaeth ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth gyfoethog ar gyfer arlunwyr a dylunwyr cyfoes.

Mae pensaernïaeth, peirianwaith, deunyddiau, lliw, patrymau a gwead yn cyfuno i ddiffinio traddodiadau diwydiannol a domestig rhanbarthau daearyddol gwahanol, gan gynrychioli teimlad cryf o le.

Mae’r casgliadau yn rhoi cyfle i’r ysgolhaig ddeall crefft a thechnoleg ein hynafiaid, ond maent hefyd yn diffinio lle mewn ffordd fwy barddonol ac athronyddol.

Mae gwrthrychau iwtilitaraidd fel siolau a blancedi yn diwallu anghenion ymarferol ond hefyd yn cynnig cyfle i ymchwilio i ddathliad o batrwm, lliw a diogelwch.

Dewch i weld canlynidadu yr ysbrydoliaeth.