Gŵyl Fwyd y Cynhaeaf
Galwch draw i flasu danteithion lleol a chyfarfod â rhai o gynhyrchwyr bwyd gorllewin.
Bydd ystod o stondinau bwyd ac arddangosfeydd coginio gan Gareth Richards a chystadlaethau i’r teulu.
Cynhaliwyd G?yl Fwyd yma am y tro cyntaf y llynedd a bu’n llwyddiant aruthrol. Croesawodd yr Amgueddfa y nifer uchaf erioed o ymwelwyr i’r safle yn ystod y digwyddiad.
Gyda phabell fawr yn cael ei chodi ar gyfer yr achlysur er mwyn arddangos mwy fyth o stondinau eleni, mae disgwyl ymlaen at ddiwrnod bywiog, lliwgar a blasus arall!
Diddanwyd y dyrfa yn 2009 gan y cogydd lleol Gareth Richards, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, ac mae Gareth yn ôl yn 2010 i gynnal mwy o arddangosfeydd coginio. Eleni, bydd yn defnyddio rhai o’r bwydydd sydd ar werth yn yr ?yl i greu prydau poeth ar gyfer y gaeaf!
Bydd cystadlaethau coginio i dimau lleol a chystadlaethau i dimau plant a phobl ifanc. Yn ogystal â hyn, bydd Theatr Felinfach yn cynnal gweithdai dawns. Mae’n rhaid cofrestru ar gyfer y rhain felly cysylltwch o flaen llaw.
Mae yr ?yl wedi’i threfnu mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau