Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

O Gymoedd y De i Begwn y De: Cymru ac Antarctica

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 13 Mehefin 2010 2010 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910
Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910
Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905
Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905
Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910
Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Ar 15 Mehefin 1910 bu tyrfa fawr, gynhyrfus a swnllyd yn gweiddi nerth eu pennau wrth i long dan bwysau llwyth trwm adael Doc Bute, Caerdydd. Roedd yr SS Terra Nova yn mynd am y de – i’r Antarctig.

Roedd y Terra Nova wedi cyrraedd Caerdydd bum niwrnod ynghynt i baratoi ar gyfer ei thaith ac i lwytho tanwydd. Roedd cwmnïau glo Cymru wedi darparu tri chan tunnell o Danwydd Patent y Goron a chan tunnell o lo stêm, ynghyd â phum can galwyn o olew peiriannau ac olew lampau – a hynny’n rhad ac am ddim.

Y Cwmni Tunplat Cymreig o Lanelli ddarparodd yr holl offer coginio ar gyfer y daith, a phrynwyd sach gysgu Capten Robert Falcon Scott gydag arian a godwyd gan Ysgol y Sir yn Aberteifi. Yn ogystal â chymorth mewn da, codwyd £2,500 pellach yng Nghaerdydd, mwy nag yn unrhyw ddinas arall.

Yn wir, heb noddwyr o Gaerdydd fel y perchnogion llong Daniel Radcliffe a William Tatem (yr Arglwydd Glanely) a chymorth William Davies - golygydd y Western Mail ar y pryd, ni fyddai Capten Scott wedi gadael mewn pryd i gyrraedd y Pegwn yn 1912.

Cymaint oedd y gefnogaeth i’r daith yng Nghymru y dynodwyd Caerdydd yn borthladd cartref y Terra Nova a’r bwriad oedd iddi ddychwelyd i Ddoc Bute ar ddiwedd yr alldaith ar 14 Mehefin 1913.

Ganrif yn ddiweddarach, bydd y blaenddelw yng nghlwm at Terra Nova yn rhan o 'O Gymoedd y De i Begwn y De: Cymru ac Antarctica' - arddangosfa’r Antarctig gyntaf yr Amgueddfa ers 1914.

Yn ogystal â phâr o sgïau a wisgwyd gan y daearegwr Raymond Priestley, band het morwr, pengwin, cregyn a chreigiau a gasglwyd ar yr alldaith, a hyd yn oed bisgïen o’r daith, mae fbaner Cymru a roddwyd gan James Howell o siop Howells hefyd yn ffurfio rhan o'r arddangosfa.

Y gwrthrychau mwyaf teimladwy efallai yw’r casgliad o greigiau, rhan o lwyth o 35 pwys o sampl daearegol a ganfuwyd ar sled Scott pan ddarganfuwyd cyrff Scott a’i gyfeillion. Fe’u benthycwyd gan Amgueddfa Hanes Naturiol, Llundain.

Caiff y stori ei hadrodd hefyd drwy gyfres o luniau o’r Terra Nova, llofnodion a llythyron. Mae’r arddangosfa hefyd yn archwilio cysylltiadau Cymreig eraill gydag Antarctica – deaeregwr o Sain Ffagan, teithiwr cudd o Gasnewydd a gwaith Antarctig gwr o St Brides a ddaeth yn Gyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol.