Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim / Niferoedd cyfyngedig, rhaid bwcio lle: 029 20 57 3424

Diwrnod o Gelf i Oedolion yn Sain Ffagan

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 6 Mai 2010, 10.30

[delwedd: Gwanwyn Logo]

Os ydych chi'n hoff o gelf, ond heb afael mewn brwsh ers tipyn - neu os ydych chi'n awyddus i drio am y tro cyntaf: dyma'r diwrnod i chi.

Byddwch yn treulio'r bore yn defnyddio pigmentau naturiol yn Eglwys Teilo Sant. Ar ôl cinio hamddenol yn y Ty Gwyrdd, cewch gyfle i astudio bywyd llonydd a bywyd bob dydd yn ein arddangosfa 'Perthyn'.

Fel rhan o Wyl Gwanwyn, mae'r weithgaredd ar agor i bobl dros 50. Croesawir pobl o unrhyw lefel sgil, a'r rheiny sy'n edrych am damaid o ysbrydoliaeth!

Cwrdd wrth y Brif Ddesg. Bydd deunyddiau a chinio yn cael eu darparu.

Fe allwn ni helpu gyda mynediad i rai sydd a phroblemau symudedd - cofiwch ofyn pan fyddwch yn bwcio lle.